Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

7.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

8.

Cofnodion: pdf eicon PDF 211 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 26 Mai 2021 fel cofnod cywir.

 

9.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 238 KB

Penderfyniad:

Penderfynwyd: -

 

1) Cyfeirio'r mater at Unigolyn Annibynnol Dynodedig (DIP) er mwyn gallu cynnal ymchwiliad i'r honiadau o fwlio ac aflonyddu a wnaed gan yr achwynydd;

 

2) Yn ystod cyfnod yr ymchwiliad, ni fyddai ataliad ffurfiol yn digwydd yn amodol ar asesiad risg boddhaol i sicrhau bod buddiannau'r ddau barti yn cael eu gwarchod.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau canlynol ar yr agenda.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

10.

Gwrandawiad Achwyniad.

Cofnodion:

Cyflwynodd Adrian Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol, adroddiad o'r achwyniad i'r Pwyllgor.  Darparwyd sylwadau ysgrifenedig yn yr adroddiad gan y swyddog dan sylw.

 

Derbyniodd y Pwyllgor sylwadau llafar gan y swyddog gan sylw.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Cyfeirio'r mater i Berson Annibynnol Dynodedig (PAD) er mwyn gallu cynnal ymchwiliad i'r honiadau a wnaed gan yr achwynydd;

2)    Yn ystod cyfnod yr ymchwiliad, ni fyddai gwaharddiad ffurfiol yn cael ei roi ar waith yn amodol ar asesiad risg boddhaol yn cael ei gynnal i sicrhau bod buddion y ddau barti'n cael eu hamddiffyn.