Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiant
canlynol: Y Cynghorydd P
Lloyd - Personol - Cofnod Rhif 58 - Apêl yn erbyn penderfyniad i beidio â chymeradwyo
Cynorthwy-ydd Teithwyr ar gyfer Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol - CL. Gadawodd y
Cynghorydd Lloyd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Statudol a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2022 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - PRP. Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd Gweithredol, Tacsis, yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â PRP. Esboniodd PRP yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau’r aelodau. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo
cais PRP am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio
preifat. Rheswm dros y
penderfyniad Roedd y Pwyllgor
yn fodlon â chamau lliniaru PRP mewn perthynas â’r drosedd a theimlai ei bod yn
briodol caniatáu’r drwydded am flwyddyn. |
|
Apêl yn erbyn penderfyniad i beidio â chymeradwyo Cynorthwy-ydd Teithiwr ar gyfer Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol - CD. Cofnodion: Manylodd yr Arweinydd
Tîm Trafnidiaeth Teithwyr ar y cefndir mewn perthynas â CL, ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. Esboniodd CL,
gyda chymorth Mr J, yr amgylchiadau mewn perthynas â'r troseddau ac atebodd
gwestiynau’r aelodau. Penderfynwyd gwrthod apêl CL yn erbyn y penderfyniad i
beidio â'i gymeradwyo fel gyrrwr Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. Rheswm dros y
Penderfyniad Nid oedd yr
aelodau'n fodlon fod CL yn berson addas, priodol a diogel i'w gymeradwyo fel
gyrrwr cludiant ysgol o dan adrannau 3.29, 4.16, 4.17 a 4.22, 4.28 a 4.31 yr
arweiniad ar benderfynu ar addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y
masnachau cerbydau hacni a hurio preifat. |