Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2022 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - MA. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â MA. Esboniodd MA yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau’r aelodau. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
cais MA am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio
preifat. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - Trwydded cerbyd cerbydau Hackney - MAI. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
MAI. Rhannodd y
Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ddogfen a gyflwynwyd gan MAI. Cyfeiriodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch at wall teipograffyddol yn adran 4.19 yr
adroddiad. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd MAI yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau’r aelodau. Penderfynwyd: 1)
Diddymu trwydded MAI i yrru cerbyd hacni
a hurio preifat. 2)
Ni chymerir unrhyw gamau gweithredu eraill mewn perthynas
â thrwydded MAI i yrru cerbyd hacni. Rheswm dros y
Penderfyniad Am
y rhesymau uchod ac wrth ystyried y canllawiau uchod, teimlai'r aelodau nad yw'r
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ac maent yn teimlo nad yw'n ddiogel ac yn
addas i gael trwydded. Yn ogystal, dan y
canllawiau nid yw'r 7 mlynedd gofynnol ers ei gollfarn wedi dod i ben. Roedd
y Pwyllgor yn ymwybodol y gallent wyro oddi wrth y canllawiau yn unol â
pharagraff 3.29 ond ni roddwyd unrhyw amgylchiadau eithriadol na rhesymau
iddynt er mwyn cyfiawnhau gwneud hynny. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - SJD. Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr wybodaeth
gefndir mewn perthynas â SJD. Esboniodd SJD,
yng nghwmni DR, yr amgylchiadau mewn perthynas â'r collfarnau ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
cais SJD am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - KT. Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr wybodaeth
gefndir mewn perthynas â KT. Esboniodd KT yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau’r aelodau. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
cais KT am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio
preifat. |