Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. . |
|
To approve & sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2021 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitem fusnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - PMT. Cofnodion: Gwnaeth Arweinydd
y Tîm Trwyddedu a’r Arweinydd Gweithredol - Tacsis gyflwyno’r wybodaeth gefndir
mewn perthynas â PMT. Cyfeiriodd yr Arweinydd Gweithredol - Tacsis at wall
teipograffyddol ar dudalen 9, paragraff 3 yr adroddiad. Nododd y dylid newid y
dyddiad i 11 Rhagfyr 2020. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd PMT yr amgylchiadau
sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau’r aelodau. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Rhoi
llythyr rhybuddio i PMT ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. 2)
Adnewyddu
Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Hurio Preifat PMT am gyfnod o un flwyddyn. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - RPG. Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r Arweinydd Gweithredol - Tacsis yr wybodaeth
gefndir mewn perthynas â RPG. Esboniodd RPG yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau aelodau. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Rhoi
llythyr rhybuddio i RPG ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol; 2)
penderfynwyd
cymeradwyo cais RPG am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat am gyfnod o
un flwyddyn. |