Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd
cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12
Tachwedd a 26 Tachwedd 2021 fel cofnod cywir yn amodol ar bresenoldeb y
Cynghorydd L V Walton yn cael ei nodi o gofnod rhif 23 i 26. |
|
Amodoldeb Treth sy'n effeithio ar y Cerbyd Hacni a Masnach Llogi Preifat. PDF 226 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn manylu
ar y ddeddfwriaeth newydd mewn perthynas â gwiriadau treth a fydd yn effeithio
ar yrwyr cerbydau hacni a hurio preifat a hefyd
gweithredwyr cerbydau hurio preifat. Nododd yr aelodau’r wybodaeth gefndir; ceisiadau tro cyntaf; ceisiadau
adnewyddu a'r effaith ar yrwyr, gweithredwyr ac awdurdodau trwyddedu. Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd
yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)
(Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - MAC. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Trwyddedu'r wybodaeth gefndir mewn perthynas â MAC. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd MAC yr amgylchiadau
sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd cymeradwyo cais MAC am eithriad rhag cludo
defnyddwyr cadair olwyn mewn cerbyd hacni a/neu
gerbyd hurio preifat am gyfnod o 24 mis. Rheswm dros y Penderfyniad Penderfynodd yr
aelodau ganiatáu eithriad dwy flynedd gan y teimlwyd nad oedd tystiolaeth
feddygol ddigonol i'r Pwyllgor ystyried rhoi eithriad amhendant ar yr adeg hon.
Teimlwyd bod eithriad dwy flynedd yn briodol fel y gellir adolygu'r sefyllfa
feddygol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - JD. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Trwyddedu'r wybodaeth gefndir mewn perthynas â JD. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd JD yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd cymeradwyo cais JD am eithriad rhag cludo defnyddwyr
cadair olwyn mewn cerbyd hacni a/neu gerbyd hurio
preifat am gyfnod amhendant. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - DE. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Trwyddedu'r wybodaeth gefndir mewn perthynas â DE. Amlygodd y Swyddog Trwyddedu wall
teipograffyddol yn yr adroddiad. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd DE, yng
nghwmni WH, yr amgylchiadau mewn perthynas â'r collfarnau ac atebodd gwestiynau
gan aelodau. Ar gais DE,
dangosodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ohebiaeth i gefnogi cais DE Penderfynwyd y dylid gwrthod cais DE am
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Rheswm dros y
Penderfyniad Nid oedd DE wedi bodloni’r aelodau ei fod yn berson addas, priodol a diogel i ddal trwydded o dan adrannau 1.7, 3.29, 3.30, 4.26, 4.40, 4.42 a 4.33 o'r canllawiau ar bennu addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y busnes cerbydau hacni a hurio preifat. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - MIMB, Cofnodion: Dywedodd y
Swyddog Trwyddedu fod cais i ohirio ystyried y mater wedi'i dderbyn gan MIMB. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Penderfynwyd gohirio'r eitem tan y cyfarfod a drefnwyd
ar gyfer 11 Chwefror 2022. |