Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Statudol a gynhaliwyd ar 27 Awst 2021 yn gofnod cywir. |
|
Cysoni Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat. PDF 289 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn
manylu ar y safonau statudol newydd ar gyfer gwasanaethau tacsis a hurio
preifat a gyhoeddwyd o dan ddarpariaethau Deddf Plismona a Throsedd 2017 ac a
gyhoeddwyd gan yr Adran Drafnidiaeth (DfT). Darparwyd
manylion hefyd am yr argymhellion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a chynigir y byddai'r safonau yn y dogfennau hyn yn cael eu
defnyddio i ddatblygu Datganiad o Egwyddorion newydd ar gyfer Trwyddedu Tacsis
a Cherbydau Hurio Preifat ar gyfer yr Awdurdod. Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Cadarnhaodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu y byddai dogfennau'n cael eu hanfon
at yr Aelodau er gwybodaeth. |
|
Cofrestr Genedlaethol Diddymiadau a Gwrthodiadau. PDF 216 KB Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a'r Swyddog Trwyddedu adroddiad 'er
gwybodaeth' i roi gwybod i'r Aelodau am y defnydd arfaethedig o'r Gofrestr
Genedlaethol ar gyfer Dirymiadau a Gwrthodiadau Tacsis (NR3). Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Mynegodd y Cadeirydd a'r Aelodau eu diolch i'r Tîm Trwyddedu am eu gwaith caled
yn ystod yr heriau sy'n gysylltiedig â phandemig
COVID-19. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Canlyniadau Apeliadau. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyfreithiwr Cyswllt adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn manylu ar ganlyniadau
apêl. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - AMS. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Trwyddedu'r wybodaeth gefndir mewn perthynas ag AMS. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd AMS yr
amgylchiadau mewn perthynas â'r euogfarn ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais AMS am
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat ac i AMS
dderbyn llythyr rhybuddio ynghylch ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - CRH. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Trwyddedu'r wybodaeth gefndir mewn perthynas â CRH. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd CRH,
ynghyd â DR a NT, yr amgylchiadau mewn perthynas â'r troseddau ac atebodd
gwestiynau'r Aelodau. Penderfynwyd y dylid gwrthod cais CRH am drwydded yrru
cerbyd hacni a hurio preifat. Rheswm dros y
Penderfyniad Nid oedd CRH yn
bodloni'r Aelodau ei fod yn iach, yn briodol, yn ddiogel ac yn addas i ddal
trwydded o dan adrannau 3.27, 3.28, 3.30, 3.31, 3.34 a 4.41 yn ogystal â'r
rheini a amlinellir yn adroddiad y canllawiau ar benderfynu ar addasrwydd
ymgeiswyr a deiliad trwydded yn y busnes cerbydau hacni
a hurio preifat. |
|
Apêl yn erbyn y penderfyniad i beidio â chymeradwyo fel gyrrwr cludiant o'r cartref i'r ysgol - SCN. Cofnodion: Manylodd y
Swyddog Trafnidiaeth ar fanylion cefndir SCN. Cadarnhaodd SCN
nad oedd wedi derbyn copïau o'r papurau a oedd yn cael eu hystyried yn y
cyfarfod. Penderfynwyd gohirio'r eitem. |