Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 14 Mai 2021 a 20 Mai 2021 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Canlyniadau Apeliadau (er gwybodaeth). Cofnodion: Nodwyd. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - CEB. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
CEB. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd CEB,
yng nghwmni PB, yr amgylchiadau mewn perthynas â'r collfarnau ac atebodd
gwestiynau gan aelodau. Penderfynwyd: 1.
Gwrthod cais CEB am drwydded gyfyngedig i yrru
cerbydau hacni a hurio preifat. Rheswm dros y
Penderfyniad Nid oedd CEB wedi
sicrhau'r aelodau ei bod yn berson diogel ac addas i gadw'r drwydded dan
adrannau 4.26, 4.27, 4.39 a 4.42 a 4.44 o'r arweiniad ar benderfynu ar
addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y busnes cerbydau hacni a hurio preifat. Hefyd, gwnaeth yr aelodau ystyried
3.29 ac nid oeddent yn teimlo eu bod wedi clywed unrhyw amgylchiadau eithriadol
na rhesymau y gellir eu cyfiawnhau i wyro oddi wrth y canllawiau. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - MDHC. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
MDHC. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd MDHC yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd: 1.
Cymeradwyo cais MDHC am eithriad rhag cludo
defnyddwyr cadair olwyn mewn cerbyd hacni a/neu
gerbyd hurio preifat am gyfnod amhendant.
|