Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. www.abertawe.gov.uk/DatgeluCysylltiadau Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 9 Ebrill 2021 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - KGR. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
KGR. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd KGR yr
amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r euogfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd: 1.
Adnewyddu
Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat KGR am gyfnod o 6 mis 2.
Rhoi
rhybudd i KGR ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Rheswm dros y
Penderfyniad Rhoddwyd
ystyriaeth lawn i'r sylwadau yng nghyfarfod y pwyllgor, ond rhoddwyd ystyriaeth
hefyd i'r hanes gyrru a diffyg cydymffurfio ag is-ddeddfau ac amodau; felly,
rhoddwyd adnewyddiad o 6 mis. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - PM. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
PM. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd PM yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd cymeradwyo cais PM am eithriad
rhag cludo defnyddwyr cadair olwyn mewn cerbyd hacni
a/neu gerbyd hurio preifat. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio -- MAI. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
MAI. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd MAI yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd cymeradwyo cais MAI am eithriad
rhag cludo defnyddwyr cadair olwyn mewn cerbyd hacni
a/neu gerbyd hurio preifat. |