Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
To approve & sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2021 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - LPW. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
LPW. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd LPW,
yng nghwmni PW, cynrychiolydd cyfreithiol, y sefyllfa mewn perthynas â'r
collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1.
Cyhoeddir
llythyr rhybuddio wedi'i eirio'n gryf i LPW ynghylch ymddygiad yn y dyfodol. 2.
Adnewyddu
Trwyddedau Cerbyd Hacni a Hurio Preifat LPW. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - VM. Cofnodion: Dywedodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fod VM wedi gofyn am ohiriad pellach er
mwyn sicrhau cynrychiolaeth gyfreithiol.
Yn ogystal, roedd VM am gyflwyno gwybodaeth ychwanegol gan yr Heddlu i
gefnogi ei fater a allai gymryd hyd at 28 niwrnod i gyrraedd gan yr Heddlu. Penderfynwyd y dylid gohirio'r mater tan gyfarfod mis Ebrill
ac y gellir gwrthod unrhyw geisiadau pellach am ohirio. |