Lleoliad arfaethedig: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2021, yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth)
(Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 a Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat - KGR Cofnodion: Dywedodd y Rheolwr
Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch a'r Cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor y bu
newid mewn amgylchiadau o ran y mater ac roedd yn ceisio cymeradwyaeth y
pwyllgor i ohirio ystyried y mater tan gyfarfod nesaf y pwyllgor. Penderfynwyd: 1.
Gohirio'r
mater tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 a Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat - VM Cofnodion: Manylodd y Rheolwr
Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â VM. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd VM, yng
nghwmni BW, cynrychiolydd cyfreithiol, y sefyllfa mewn perthynas â'r collfarnau
ac atebodd gwestiynau gan aelodau. Penderfynwyd: 1.
Gwrthod cais VM i adnewyddu'r drwydded i yrru
cerbyd hacni a hurio preifat Rheswm dros
y Penderfyniad Nid oedd VM wedi bodloni’r aelodau ei fod yn berson addas a phriodol a
diogel i gadw'r drwydded dan adrannau 3.30 a 3.32 o'r arweiniad ar benderfynu
ar addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y busnes cerbydau hacni a hurio preifat. |