Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Cod
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2020 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol, fel
y'i nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 -- Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - MRS Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
MRS. Esboniodd MRS yr
amgylchiadau mewn perthynas â'r euogfarn ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd atal y Trwyddedau Gyrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat a gedwir
gan MRS am gyfnod o 3 mis. Rheswm dros y Penderfyniad Nid oedd MRS wedi sicrhau'r aelodau ei fod yn berson diogel ac addas i
gadw'r drwydded dan adrannau 3.26, 3.30, 4.14 a 4.17 o'r arweiniad ar
benderfynu ar addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y busnes cerbydau hacni a hurio preifat. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 -- Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - VM. Cofnodion: Dywedodd y Rheolwr
Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch nad oedd VM, oherwydd salwch, yn gallu bod yn
bresennol yn y cyfarfod a'i fod wedi gofyn i'r eitem gael ei gohirio i gyfarfod
yn y dyfodol. Penderfynwyd gohirio'r eitem tan gyfarfod yn y dyfodol. |