Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

23.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

24.

Cofnodion: pdf eicon PDF 99 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

 

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod Cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2019 yn gofnod cywir.

25.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

26.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - DSP.

Cofnodion:

Manylwyd ar y cefndir mewn perthynas â DSP gan y Prif Gyfreithiwr.

 

Esboniodd DSP yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r euogfarnau ac atebodd gwestiynau aelodau.

 

Darparodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor eglurhad ar y materion a godwyd gan aelodau.

 

Penderfynwyd gwrthod cais DSP am drwydded gyfyngedig i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Nid oedd y pwyllgor yn fodlon bod DSP yn berson addas a phriodol oherwydd euogfarnau difrifol a mynych am feddu ar gyffuriau a/neu eu cyflenwi a/neu gynhyrchu cyffuriau a reolir.

27.

Y Diweddaraf am y Camau Gweithredu Uniongyrchol/Canlyniadau Apeliadau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad am Y Diweddaraf am Gamau Gweithredu Dioed / Canlyniadau Apeliadau.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.