Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y buddion canlynol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod Cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 8 2017 yn
gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Pwyllgor
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd
yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth)
(Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni - Rhif Cofrestru - MM. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas ag MM. Esboniodd MM yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau aelodau. Penderfynwyd cymeradwyo cais MM am drwydded
yrru cerbyd hacni a phreifat am flwyddyn. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni - Rhif Cofrestru - AJB. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas ag AJB. Esboniodd AJB yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r gollfarn ac atebodd gwestiynau aelodau. Darparodd y
cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor esboniad ynghylch y materion a godwyd
gan aelodau. Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais AJB am drwydded
yrru cerbyd hacni a hurio preifat. |