Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

6.

Cofnodion: pdf eicon PDF 103 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod Cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2019 yn gofnod cywir.

7.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

8.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - Perchennog Cerbyd Hacni - MN. -

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas ag MN.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn  briodol.

 

Esboniodd MW, cyfreithiwr sy'n gweithio ar ran MN, yr amgylchiadau mewn perthynas â'r digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Rhoddodd MW sail apelio i'r cyfreithiwr a oedd yn gweithio ar ran y pwyllgor, a oedd yn rhoi gwybodaeth fanwl i aelodau'r pwyllgor.

 

Penderfynwyd y byddai MN yn derbyn llythyr rhybudd cryf o ran ymddygiad yn y dyfodol.

 

9.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - SS.

Cofnodion:

Esboniodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fod SS wedi rhoi gwybod i'r awdurdod nad oedd yn gallu mynd i'r cyfarfod oherwydd ymrwymiadau gwaith.

 

Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas ag SS.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais SS am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat am gyfnod o flwyddyn.

 

10.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - MJA.

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas ag MJA.

 

Esboniodd Mr W, cyfreithiwr a oedd yn gweithio ar ran MJA, yr amgylchiadau mewn perthynas â'r digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd y byddai MJA yn derbyn llythyr rhybudd o ran ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

11.

Y Diweddaraf am y Camau Gweithredu Uniongyrchol.

Cofnodion:

Nodwyd y camau gweithredu a gymerwyd gan swyddogion.