Lleoliad arfaethedig: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad
canlynol: Y Cynghorydd C
Anderson – Personol – Cofnod rhif 72 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847
– Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 – Cais am Drwydded i
Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - JHG. Rwy'n adnabod yr ymgeisydd. Gadawodd y
Cynghorydd C Anderson y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried. |
|
Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2019 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - JHG. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas â JHG. Esboniodd JHG yr
amgylchiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd y dylid gwrthod cais JHG am drwydded
i yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Rheswm dros y
penderfyniad Ni lwyddodd yr
ymgeisydd i fodloni'r pwyllgor ei fod yn berson addas a phriodol. |
|
Y Diweddaraf am y Camau Gweithredu Uniongyrchol. Cofnodion: Nodwyd. |