Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

61.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd C Anderson – Personol – Cofnod Rhif: 68 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 – Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 – Cais am Drwydded Gyfyngedig i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat - PJH – Rwy'n adnabod yr ymgeisydd.  Gadawodd y Cynghorydd C Anderson y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried.

 

Y Cynghorydd J P Curtice – Personol – Cofnod Rhif: 68 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 – Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 – Cais am Drwydded Gyfyngedig i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat - PJH – Rwy'n adnabod yr ymgeisydd.  Gadawodd y Cynghorydd J P Curtice y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried.

 

62.

Cofnodion: pdf eicon PDF 102 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2019 yn gofnod cywir.

 

63.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

64.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - MNI.

Cofnodion:

Dywedodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu, nad oedd MNI wedi dod i'r cyfarfod ac nad oedd wedi rhoi rheswm dros ei absenoldeb.

 

Rhoddwyd cyngor cyfreithiol gan y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor.

 

Manylodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag MNI.

 

Ymhelaethodd yr achwynydd ar y sylwadau ysgrifenedig ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd:

 

1.     Ymdrin â'r mater yn absenoldeb MNI;

2.     Dirymu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat MNI; ac

3.     Nid oes angen cymryd mwy o gamau gweithredu mewn perthynas â thrwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat MNI;

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Penderfynodd y pwyllgor nad oedd MNI yn berson addas a phriodol. Roedd pryderon ynghylch ei onestrwydd o ran codi tâl gormodol a chymryd llwybrau hwy, ac roedd nifer o gwynion o achosion blaenorol gerbron y pwyllgor a chan y cwmni yr oedd yn gweithio iddo.

 

65.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - CSL.

Cofnodion:

Manylodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar gefndir cais CSL am gael trwydded gyfyngedig i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Esboniodd CSL yr amgylchiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd gwrthod cais CSL am drwydded gyfyngedig i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Nid oedd amodau'r Canllawiau Trwyddedu, sef peidio â throseddu am 3 blynedd yn dilyn adfer trwydded, wedi'u bodloni. Nid oedd aelodau'r pwyllgor yn argyhoeddedig o resymau lliniarol CSL a theimlwyd na allent wyro oddi wrth y canllawiau.

 

 

66.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - DK.

Cofnodion:

Manylodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â DK.

 

Esboniodd DK yr amgylchiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd anfon llythyr rhybuddio terfynol at DK ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

67.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - MJW.

Cofnodion:

Manylodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais MJW am drwydded gyfyngedig i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Esboniodd MJW yr amgylchiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd:

 

Cymeradwyo cais MJW am drwydded gyfyngedig i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, ac y dylid cyflwyno llythyr rhybuddio ynghylch y safonau a ddisgwylir.

 

 

68.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 197 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - PJH.

Cofnodion:

Manylodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais PJH am drwydded gyfyngedig i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Esboniodd PJH yr amgylchiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais PJH am drwydded gyfyngedig i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, ac y dylid cyflwyno llythyr rhybuddio ynghylch y safonau a ddisgwylir.