Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

37.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

38.

Cofnodion: pdf eicon PDF 69 KB

To Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 11 Awst 2017 yn gofnod cywir.

 

39.

Deddf Cydraddoldeb 2010. pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad mewn perthynas ag Adran 165 a 167 Deddf Cydraddoldeb 2010. 

 

Nododd yr aelodau'r cefndir, gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 ac arsylwadau'r swyddog.

 

Penderfynwyd cyhoeddi a chynnal rhestr o gerbydau dynodedig yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.

 

40.

Ymateb i ddogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru - Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yng Nghymru. pdf eicon PDF 61 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad a oedd yn manylu ar ddogfen ymgynghori gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 12 Mehefin 2017 a oedd yn ceisio barn ar fframwaith er mwyn trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat a gynhigir gan Gomisiwn y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr.

 

Nododd yr aelodau'r crynodeb gweithredol, yr ymgynghoriad a'r ymateb i'w hystyried.

 

Penderfynwyd cyflwyno'r ymateb y manylwyd arno yn Atodiad B yr adroddiad i Lywodraeth Cymru i'w hystyried.

 

41.

Cynnig i ddiwygio Amod 23 Cerbyd Hurio Preifat Cyfyngedig. pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad er mwyn ystyried diwygio'r amod presennol sy'n nodi lle dylai'r drwydded gael ei harddangos yn y cerbyd.

 

Nododd yr aelodau'r amod, y cefndir a'r cynigion ar hyn o bryd.

 

Penderfynwyd diwygio amod 23 cerbyd hurio preifat cyfyngedig i nodi'r canlynol:

 

"Mae'n rhaid i rif plât a sticeri'r cerbyd gael eu gosod yn ddiogel ar y cerbyd.Mae'n rhaid i rif plât y cerbyd gael ei osod ar far taro neu gaead y gist/drws cefn rhwng llinell ganol ac i ochr dde'r cerbyd. Mae'n rhaid i'r sticeri gael eu gosod ar ddrysau blaen yr ochr i mewn ac ochr dde'r cerbyd. Mae'n rhaid i'r plât a'r sticeri fod yn gwbl weladwy ar bob adeg. Mae'n rhaid dychwelyd plât y cerbyd i'r cyngor pan fydd y drwydded yn dod i ben."

 

 

42.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

43.

Deddf Llywodraeth Cymru (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Gweithredwr Hurio Preifat - UBL.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais UBL am Drwydded Gweithredwyr Hurio Preifat.

 

Esboniodd UBL amgylchiadau'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau mewn perthynas â'r mater.

 

Penderfynwyd gwrthod cais UBL.

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

Nid oedd y pwyllgor yn credu bod UBL yn berson addas a phriodol oherwydd anallu UBL i gydymffurfio ag Amod 22.

 

44.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - II.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais II am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Esboniodd II amgylchiadau'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau mewn perthynas â'r mater.

 

Penderfynwyd:

1)    Cymeradwyo trwydded II o dan Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 tan 10 Rhagfyr 2017; a

2)    chymeradwyo ffi arfaethedig o £87.00 am gyfnod o 3 mis am y drwydded yrru hon; ac

3)    ychwanegu'r ffi am y drwydded 3 mis i'r tabl o ffioedd ym mharagraff 8 yr adroddiad.

 

 

45.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - MHIF.

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch nad oedd MHIF yn bresennol ar gyfer y cyfarfod ac nid oedd wedi darparu unrhyw reswm dros yr absenoldeb.

 

Darparodd yr aelodau gyngor.

 

Penderfynwyd gohirio'r mater tan y cyfarfod nesaf.

 

46.

Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - MAC.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais MAC am Dystysgrif Eithrio.

 

Esboniodd MAC amgylchiadau'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau mewn perthynas â'r mater.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais MAC am Dystysgrif Eithrio tan 12 Gorffennaf 2018.