Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

12.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r côd ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

13.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hurio Preifat Cyfyngedig - Ford Galaxy (PX06 CTF) - Mr D Jones. pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Nododd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fod yr adroddiad ynglŷn â’r cais i drwyddedu cerbyd hurio preifat cyfyngedig wedi'i dynnu’n ôl. Cymeradwywyd y cais gan swyddogion yn dilyn penderfyniad aelodau yn y Pwyllgor Trwyddedu ar 27 Mai 2016 i awdurdodi swyddogion o'r is-adran Drwyddedu i ganiatáu trwyddedu cerbydau mewn perthynas â cheisiadau cerbydau nad ydynt yn cydymffurfio â meini prawf oedran cyfredol y cyngor ar gyfer trwyddedu cerbydau, ar yr amod bod y cerbyd yn bodloni pob maen prawf perthnasol arall ar gyfer ceisiadau/trwyddedu.

 

14.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddynt ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

15.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - CIS.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â CIS.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r Swyddog Adrannol -Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch a ymatebodd yn briodol.

 

Amlinellodd CIS y manylion cefndir a'r amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO cais CIS i adnewyddu ei drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat ac i CIS dderbyn llythyr rhybuddio ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

16.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - WMP.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adrannol -Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â WMP.

 

Amlinellodd WMP a'i gynrychiolydd, Mr Warren, y manylion cefndir a'r amgylchiadau ynglŷn â'i gollfarnau a'i rybudd ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

PENDERFYNWYD y dylid DIDDYMU trwydded yrru hacni a hurio preifat WMP.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Nid oedd yr aelodau'n fodlon fod WMP yn berson addas a phriodol i feddu ar drwydded. Er y teimlwyd mai’r fersiwn o ddigwyddiadau, a ddarparwyd i'r heddlu gan WMP oedd y fersiwn gywir, roedd WMP wedi bod yn anonest naill ai gyda'r heddlu neu gyda'r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol ac o ganliad roedd anonestrwydd wedi bod yn bresennol. Credai aelodau fod patrwm o anonestrwydd wedi bodoli wrth ystyried troseddau blaenorol ac o ganlyniad atalwyd trwyddedu gyrru hacni a hurio preifat WMP yn flaenorol. Fodd bynnag, nid chafodd hyn ei ystyried.

 

17.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - OSSE.

Cofnodion:

Nododd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch nad oedd OSSE gallu dod i’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag OSSE.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol:

 

a.    Y dylid ymdrin â'r mater yn absenoldeb OSSE am nad oedd unrhyw eglurhad am absenoldeb OSSE;

b.    Dylid adnewyddu trwyddedau gyrru cerbydau hacni a hurio preifat OSSE ac y dylai OSSE dderbyn llythyr rhybuddio ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.