Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr V M Evans a C L Philpott. |
|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion: Nododd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch y derbyniwyd cais i
drwyddedu cerbyd hurio preifat cyfyngedig gan Mr D Benjamin. Audi A4 oedd y
cerbyd, rhif cofrestru HF51 RGX a gallai gludo pedwar teithiwr. Nid oedd y cerbyd yn cydymffurfio â'r meini prawf trwyddedu presennol a nodwyd gan yr awdurdod oherwydd ei oed. Nododd aelodau yr
arolygiadau a'r dogfennau, Adran Trafnidiaeth - Trwyddedu Tacsis a Cherbydau
Hurio Preifat: Arweiniad Arfer Gorau: Mawrth 2010, a'r ddeddfwriaeth sy'n
ymwneud â thrwyddedu cerbydau hurio preifat. Gofynnodd aelodau
gwestiynau i'r swyddog a Mr Benjamin a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R cais a wnaed gan Mr M Benjamin am drwydded cerbyd hurio preifat mewn perthynas â'r Audi A4, rhif cofrestru HF51 RGX, a'i adnewyddu yn ôl teilyngdod. |
|
Cofnodion: Nododd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch y derbyniwyd cais i
drwyddedu cerbyd hurio preifat cyfyngedig gan Mr M Benjamin. Rover 45, rhif
cofrestru VA54 KZT, oedd y cerbyd a gallai gludo pedwar teithiwr. Nid oedd y cerbyd yn cydymffurfio â'r meini prawf trwyddedu presennol a nodwyd gan yr awdurdod oherwydd ei oed. Nododd aelodau yr
arolygiadau a'r dogfennau, Adran Trafnidiaeth - Trwyddedu Tacsis a Cherbydau
Hurio Preifat: Arweiniad Arfer Gorau: Mawrth 2010, a'r ddeddfwriaeth sy'n
ymwneud â thrwyddedu cerbydau hurio preifat. Gofynnodd aelodau
gwestiynau i'r swyddog a Mr Benjamin a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R cais a wnaed gan Mr M Benjamin am drwydded cerbyd hurio preifat mewn perthynas â'r Rover 45, rhif cofrestru VA54 KXT, a'i adnewyddu yn ôl teilyngdod. |
|
Cofnodion: Nododd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch y derbyniwyd cais i
drwyddedu cerbyd hurio preifat cyfyngedig gan Mr M Benjamin. Skoda Octavia, rhif cofrestru
Y721 RRP, oedd y cerbyd a gallai gludo pedwar teithiwr. Nid oedd y cerbyd yn cydymffurfio â'r meini prawf trwyddedu presennol a nodwyd gan yr awdurdod oherwydd ei oed. Nododd aelodau yr
arolygiadau a'r dogfennau, Adran Trafnidiaeth - Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio
Preifat: Arweiniad Arfer Gorau: Mawrth 2010, a'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â
thrwyddedu cerbydau hurio preifat. Gofynnodd aelodau
gwestiynau i'r swyddog a Mr Benjamin a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R cais a wnaed gan Mr M Benjamin am drwydded cerbyd hurio preifat mewn perthynas â'r Skoda Octavia, rhif cofrestru Y721 RRP, a'i adnewyddu yn ôl teilyngdod. |
|
Cais I Awdurdodi Cymeradwyo Ceisiadau am Gerbydau y tu Allan I'r Meini Prawf Oed Cyfredol. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i Swyddogion yr Is-adran Trwyddedu gael yr awdurdod i ganiatáu
ceisiadau cerbydau y tu allan i'r meini prawf oedran presennol. Nodwyd y cefndir
a'r sefyllfa bresennol gan yr aelodau. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD ar y canlynol: a)
Awdurdodi
Swyddogion yr Is-adran Trwyddedu i ganiatáu trwyddedu cerbydau mewn perthynas â
cheisiadau cerbydau nad ydynt yn cydymffurfio â meini prawf oedran presennol y
cyngor ar gyfer trwyddedu cerbydau, ar yr amod bod y cerbyd yn bodloni'r holl
meini prawf cais/trwyddedu perthnasol eraill; a b) Bod y Cadeirydd yn cwrdd â Cain Swain er mwyn ceisio eglurhad mewn perthynas â gweithdrefnau cerbydau'n torri i lawr wrth gludo plant i'r ysgol ac oddi yno, ac adrodd yn ôl i'r pwyllgor. |