Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J P Curtice, P Lloyd a T H Rees. |
|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir: · Pwyllgor Trewyddedu Cyffredinol – 13 May 2016; · Is-bwyllgor
Trwyddedu Cyffredinol – 18 May 2016; · Pwyllgor Trewyddedu Cyffredinol – 19 May 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y: a)
Pwyllgor
Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 13 Mai, 2016; b)
Pwyllgor
Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 18 Mai, 2016; a'r c)
Pwyllgor
Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 19 Mai, 2016 fel cofnodion cywir. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd
yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth)
(Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - LS. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas
ag LS. Amlinellodd LS y
manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r
collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD cais LS am
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Rheswm dros y
penderfyniad Nid oedd aelodau'n ystyried bod LS yn berson addas a phriodol i ddal trwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat am nad oedd wedi bodloni canllawiau'r cyngor o ran 3 blynedd heb gollfarnau. Yn ogystal, cafwyd y collfarnau dros gyfnod amser parhaol ac fe'u cynlluniwyd. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - TA. Cofnodion: Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â TA. Amlinellodd TA y manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD cais TA am
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Rheswm dros y penderfyniad Nid oedd aelodau'n ystyried bod TA yn berson addas a phriodol i ddal trwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat am y rhesymau canlynol: a) Roedd TA wedi cyfaddef ei fod yn gyrru tacsi pan gyflawnwyd y troseddau; b) Roedd TA wedi derbyn dau rybudd yn flaenorol am ei ymddygiad yn y dyfodol, ac nid oedd wedi rhoi sylw iddynt; c) Nid oedd TA wedi dweud wrth yr Awdurdod Trwyddedu am y pwyntiau ychwanegol; ac ch) Mae nifer y tramgwyddau goryrru sy'n arwain at 10 pwynt cosb o fewn 4 mis, ynghyd â'r methiant i hysbysu yn dangos ei fod wedi diystyru'r rhwymedigaethau i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol. |