Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - tel: (01792) 637292
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A C S Colburn, D W Cole, P Downing, V M Evans a T H Rees. |
|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddion canlynol: Y Cynghorydd P
Lloyd - Personol - Cofnod rhif 132 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau
Amrywiol) 1976 - Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat Cyfyngedig - Ford Galaxy - Rhif Cofrestru WX53 AFO - Mr L Jones - Rwyf yn
adnabod yr ymgeisydd. Gadawodd y Cynghorydd Lloyd y cyfarfod cyn i'r eitem hon
gael ei thrafod. Y Cynghorydd P Lloyd - Personol - Cofnod rhif 133 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat - Ford S Max - Rhif Cofrestru GX07 BHK - Mr D Jones - Rwyf yn adnabod yr ymgeisydd. Gadawodd y Cynghorydd Lloyd y cyfarfod cyn i'r eitem hon gael ei thrafod. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod Cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 8 Ebrill 2016 yn gofnod cywir. |
|
Cofnodion: Nododd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch y derbyniwyd cais i
drwyddedu cerbyd hurio preifat gan Mr M Benjamin. Vauxhall Vectra, rhif cofrestru NA55 BBU oedd y cerbyd a gallai
gludo pedwar teithiwr. Nid oedd y cerbyd yn cydymffurfio â'r meini prawf trwyddedu presennol a nodwyd gan yr awdurdod oherwydd ei oed. Nododd aelodau yr
arolygiadau a'r dogfennau, Adran Trafnidiaeth - Trwyddedu Tacsis a Cherbydau
Hurio Preifat: Arweiniad Arfer Gorau: Mawrth 2010, a'r ddeddfwriaeth sy'n
ymwneud â thrwyddedu Cerbydau Hurio Preifat. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i Mr Benjamin a ymatebodd yn unol â hynny. PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R cais a wnaed gan Mr M Benjamin am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat mewn perthynas â'r Vauxhall Vectra, Rhif Cofrestru NA55 BBU, a'i adnewyddu yn ôl teilyngdod. |
|
Cofnodion: Nododd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch y derbyniwyd cais i
drwyddedu cerbyd hurio preifat gan Mr L Jones.
Ford Galaxy, rhif cofrestru WX53 AF0 oedd y
cerbyd a gallai gludo chwech o deithwyr. Nid oedd y cerbyd yn Cydymffurfio â'r meini prawf trwyddedau presennol a nodwyd gan yr Awdurdod oherwydd ei oed. Nododd aelodau yr
arolygiadau a'r dogfennau, Adran Trafnidiaeth - Trwyddedu Tacsis a Cherbydau
Hurio Preifat: Arweiniad Arfer Gorau: Mawrth 2010, a'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud
â thrwyddedu cerbydau hurio preifat. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i Mr L Jones a ymatebodd yn unol â hynny. PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R cais a wnaed gan Mr L Jones am drwydded cerbyd hurio preifat mewn perthynas â'r Ford Galaxy, rhif cofrestru WX53 AF0, a'i adnewyddu ar sail teilyngdod. |
|
Cofnodion: Nododd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch y derbyniwyd cais i
drwyddedu cerbyd hurio preifat gan Mr D Jones.
Ford S Max, rhif cofrestru GX07 BHK oedd y cerbyd a gallai gludo chwech
o deithwyr. Nid oedd y cerbyd yn Cydymffurfio â'r meini prawf trwyddedu presennol a nodwyd gan yr awdurdod oherwydd ei oed. Nododd aelodau yr
arolygiadau a'r dogfennau, Adran Trafnidiaeth - Trwyddedu Tacsis a Cherbydau
Hurio Preifat: Arweiniad Arfer Gorau: Mawrth 2010, a'r ddeddfwriaeth sy'n
ymwneud â thrwyddedu cerbydau hurio preifat. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i Mr L Jones a ymatebodd yn yn
unol â hynny. PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R cais a wnaed gan Mr L Jones am drwydded cerbyd hurio preifat mewn perthynas â'r Ford Galaxy, rhif cofrestru WX53 AF0, a'i adnewyddu ar sail teilyngdod. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847- Ddeuol Ddeiliad Bathodyn - Cerbyd Hacnai Perchennog Cerbyd - AA. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas
ag AA. Amlinellodd AA y
manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r
gollfarn ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD ar y canlynol: a) Byddai AA yn derbyn llythyr o rybudd gan
nodi fod rhaid i AA, yn y dyfodol, ymddwyn mewn modd priodol fel gyrrwr tacsi
gan ystyried diogelwch y cyhoedd sy'n teithio. Yn ogystal, nid oedd y Pwyllgor
yn disgwyl gweld AA eto; a b)
Ni
chymerir unrhyw gamau gweithredu mewn perthynas â thrwydded y cerbyd.
|
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat - CWJ. Cofnodion: Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a
Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â CWJ. Amlinellodd CAW y
manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r
digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD y byddai CWJ yn derbyn llythyr o rybudd ynghylch ymddygiad yn y dyfodol gan bwysleisio'n benodol fod ymddygiad CWJ yn is na'r hyn a ddisgwylir gan yrrwr tacsi sydd wedi'i drwyddedu gan Ddinas a Sir Abertawe. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat - MDM. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir o ran MDM. Amlinellodd MDM y
manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r
digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R cais a wnaed gan MDM am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat. |