Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - tel: (01792) 637292
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd C L Philpott. |
|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. |
|
To approve & sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Statudol a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2016 yn gofnod cywir. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd
yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth)
(Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Adnewyddu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - ALD. Cofnodion: Manylodd y Swyddog Adrannol
- Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag ALD. Gofynnodd y
Cadeirydd gwestiwn i'r Cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor a ymatebodd yn
briodol. Amlinellodd ALD y
manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r
collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO cais ALD i adnewyddu trwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat ac i ALD dderbyn llythyr rhybuddio ynghylch cydymffurfio â'r gorchymyn llys. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - DNR. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
DNR. Amlinellodd DNR y
manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r
collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO cais DNR am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat ac i DNR dderbyn llythyr rhybuddio ynghylch ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - NM. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas
ag NM. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch a
ymatebodd yn briodol. Amlinellodd NM y
manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r
collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO cais NM am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat ac i NM dderbyn llythyr rhybuddio ynghylch ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - JW. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
JW. Amlinellodd JW, ar
y cyd â GH, y manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Darllenodd y
Cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor gynnwys dau eirda a oedd yn cefnogi
cais JW. PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD cais JW am
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Rheswm dros y
penderfyniad Wedi ystyried y sylwadau a wnaed a'r geirdaon a gyflwynwyd, nid oedd aelodau yn fodlon bod JW yn berson addas a phriodol ac ystyriwyd ei bod hi'n angenrheidiol defnyddio'r canllawiau sy'n gofyn am o leiaf 3 blynedd heb gollfarnau cyn ystyried caniatáu trwydded i JW. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Roi Trwydded Gyfyngedig i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat - MBC. Cofnodion: Nododd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch nad oedd MBC wedi dod i'r cyfarfod a
chadarnhaodd na dderbyniwyd unrhyw gyfathrebiad gan MBC yn gofyn i'r mater gael
ei ohirio. Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas
ag MBC. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD: 1.
Y
dylid ymdrin â'r mater yn absenoldeb MBC; 2.
Y
dylid GWRTHOD cais MBC am drwydded yrru gyfyngedig i gerbyd hacni a hurio preifat. Rheswm dros y
penderfyniad Ni chysylltodd MBC
i ddweud nad oedd yn gallu dod i'r cyfarfod nac yn gofyn i'r achos gael ei
ohirio. Wedi ystyried yr wybodaeth a
ddarparwyd yn yr adroddiad, nid oedd yr aelodau'n fodlon bod MBC yn berson addas
a phriodol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - AJR. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas
ag AJR. Amlinellodd AJR y
manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r
collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Eglurodd y Cyfreithiwr
a oedd yn cynghori'r pwyllgor gynnwys y llythyr at AJR, dyddiedig 13 Tachwedd
2015. PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD cais AJR am
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Rheswm dros y
penderfyniad Nid oedd aelodau'n fodlon
bod AJR yn berson addas a phriodol oherwydd amlder a nifer y collfarnau gyrru
ac nid oedd digon o amser heb unrhyw gollfarnau wedi mynd heibio i fodloni'r
aelodau na fyddai AJR yn aildroseddu. LLYWYDDODD Y CYNGHORYDD P DOWNING (CADEIRYDD DROS DRO) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - ARA. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas
ag ARA. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Amlinellodd ARA y
manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r
collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO cais ARA am
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat ac y dylid
rhoi llythyr rhybuddio i ARA yn ei atgoffa mai ei gyfrifoldeb ef yw gwirio bod
gan y cerbyd yswiriant priodol. LLYWYDDODD Y CYNGHORYDD P M MATTHEWS (CADEIRYDD) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Roi Trwydded Gyfyngedig i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat - EJLI. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas
ag EJLI. Amlinellodd EJLI y
manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r
collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD cais EJLI am
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Rheswm dros y
penderfyniad O ystyried collfarnau a rhybudd blaenorol EJLI a'r sylwadau a wnaed, nid oedd aelodau'n fodlon bod EJLI yn berson addas a phriodol ac ystyriwyd ei bod hi'n angenrheidiol defnyddio'r canllawiau sy'n gofyn am o leiaf 3 blynedd heb gollfarnau cyn ystyried caniatáu trwydded i EJLI. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - CAW. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
CAW. Amlinellodd CAW y
manylion a'r amgylchiadau cefndir a oedd yn ymwneud â'r
collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO cais CAW am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat ac i CAW dderbyn llythyr rhybuddio ynghylch ymddygiad yn y dyfodol. |