Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at
Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Adnewyddu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - MBH. Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd Gweithredol, Tacsis, yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â MBH. Esboniodd MBH yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau aelodau. Penderfynwyd: a)
Adnewyddu trwydded yrru cerbyd
hacni a hurio preifat MBH am flwyddyn. b)
Rhoi llythyr rhybuddio i MBH
ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. c)
Ni chymerir unrhyw gamau
pellach mewn perthynas â Thrwydded Yrru Cerbyd Hacni
a Hurio Preifat MBH. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - MSR. Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd Gweithredol, Tacsis, gyda chymorth y Swyddog Adrannol - Trwyddedu a
Diogelwch Bwyd, yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag MSR. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Esboniodd MSR, yng
nghwmni Mr A, yr amgylchiadau mewn perthynas â'r mater ac atebodd gwestiynau'r
aelodau. Penderfynwyd: 1)
Y
dylid gwrthod cais MSR am drwydded yrru cerbydau hacni a hurio preifat. Rheswm dros y penderfyniad Ar ôl ystyried yn ofalus yr adroddiad a gyflwynwyd iddynt, y geirdaon a
ddarparwyd yn flaenorol, y geirdaon ychwanegol a ddarparwyd yn y gwrandawiad, y
cyflwyniadau a wnaed ar lafar a'r wybodaeth a ddarparwyd gan gynrychiolydd MSR
a siaradodd hefyd ar ei ran, penderfynodd yr aelodau i wrthod cais MSR am
Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat. Y rheswm dros wrthod oedd nad oedd yr Aelodau’n ystyried bod MSR yn berson
diogel nac yn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio
Preifat ar ôl ystyried yr adroddiad a gyflwynwyd iddynt ac mewn perthynas â’r
canllawiau, yn benodol pwyntiau 3.16, 3.28, 3.29, 3.30, 4.12, 4.16, 4.20, 4.26,
4.30 |