Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2022 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at
Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - ASJ. Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd Gweithredol, Tacsis, yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag ASJ. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd ASJ yr amgylchiadau
sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau’r aelodau. Penderfynwyd: 1)
Caniatáu
cais ASJ am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Rheswm dros y penderfyniad Roedd y Pwyllgor
yn fodlon bod ASJ yn bodloni'r meini prawf addasrwydd ar gyfer caniatáu’r drwydded. Roedd sylwadau’r
Ymgeisydd yn ddigonol i fodloni paragraff 3.29 ynghylch paragraff 4.20 a oedd
yn cyfiawnhau caniatáu’r drwydded gyda’r
rhybudd. |
|
Trwyddedu HMO - Deddf Tai 2004 - Statws Person Addas a Phriodol - CD. Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog Adrannol Iechyd yr Amgylchedd – Rheoli Llygredd a Thai’r Sector Preifat
ynghyd ag Uwch-swyddog Iechyd yr Amgylchedd yr wybodaeth gefndir mewn perthynas
â CD. Gofynnodd yr aelodau
gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Esboniodd CD, yng
nghwmni Mr P D, yr amgylchiadau mewn perthynas â'r mater ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd: 1.
Rhoi
llythyr rhybuddio i CD ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. 2.
Bod
CD yn berson addas a phriodol ac mae’r trefniadau rheoli’n foddhaol fel y’u
nodir ym Mholisi’r cyngor. Rheswm dros y penderfyniad Roedd y Pwyllgor
yn fodlon bod CD yn bodloni'r meini prawf person addas a phriodol. |