Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

13.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

14.

Cofnodion: pdf eicon PDF 291 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2022 yn gofnod cywir.

 

15.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

 

16.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - AA.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Gweithredol, Tacsis, yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag AA

 

Esboniodd AA yr amgylchiadau'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau’r aelodau.

 

Penderfynwyd:

 

a)    Gwrthod cais AA am eithriad amhenodol rhag cludo defnyddwyr cadair olwyn mewn cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Nid oedd y pwyllgor yn fodlon, o ystyried y sylwadau a roddwyd gan AA am ei gais am eithriad, ei fod yn cyfiawnhau eithriad amhenodol.

 

 

 

17.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - ARY.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Gweithredol, Tacsis, yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag ARY. 

 

Esboniodd ARY, yng nghwmni Mr J, yr amgylchiadau mewn perthynas â'r mater ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Cymeradwyo cais ARY am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat am gyfnod o un flwyddyn.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Roedd y Pwyllgor yn fodlon bod ARY yn bodloni'r meini prawf addasrwydd ar gyfer caniatáu'r drwydded, fodd bynnag yn absenoldeb tystysgrif cymeriad da, dylid caniatáu'r drwydded am gyfnod o un flwyddyn.

 

18.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - MSR.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Gweithredol, Tacsis, yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag MSR a chyfeiriodd at wybodaeth ychwanegol a oedd wedi'i hepgor o'r adroddiad. Cylchredwyd yr wybodaeth i'r Aelodau gan Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Esboniodd MSR yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Gohirio cais MSR am ganiatâd am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Roedd y Pwyllgor wedi ystyried yr holl wybodaeth yn yr adroddiad ac wedi gwrando ar sylwadau'r ymgeisydd. Mynegwyd pryder gan nad oedd sylwadau MSR yn glywadwy, gan rwystro'r Pwyllgor rhag cymryd sylw ohonynt. Felly, cynigiodd y Pwyllgor y cyfle i MSR gael gafael ar gymorth; pe bai'n dymuno hynny, cyn dod i gyfarfod yn y dyfodol.