Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2022 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Pwyllgor
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd
yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth)
(Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - NWWG. Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd Gweithredol, Tacsis, yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag
NWWG. Esboniodd NWWG yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
cais NWWG am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio
preifat. Rheswm dros y penderfyniad Roedd yr aelodau wedi ystyried yr holl wybodaeth yn yr adroddiad ac wedi
gwrando ar sylwadau'r ymgeisydd. Roedd yr
aelodau'n fodlon bod yr ymgeisydd wedi dangos aeddfedrwydd ac edifeirwch, gan
ddarparu rhesymau cymhellol ac amgylchiadau
eithriadol i ganiatáu iddynt wyro o'r arweiniad yn ôl 3.29. |