Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 8 Ebrill 2022 a 24 Mai 2022 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - DDP. Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd Gweithredol, Tacsis, yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â DDP. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd DDP,
yng nghwmni Mr J, yr amgylchiadau mewn perthynas â'r collfarnau ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd: 1)
Anfon
llythyr rhybuddio at DDP ynghylch ymddygiad yn y dyfodol mewn perthynas â'i
Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Adnewyddu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - LJL. Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd Gweithredol, Tacsis, yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â LJL. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd LJL yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau aelodau. Penderfynwyd: 1)
y
dylid adnewyddu trwydded gyrru cerbyd hacni a hurio
preifat LJL am flwyddyn. Rheswm dros y penderfyniad Roedd y Pwyllgor yn pryderu bod y troseddau wedi digwydd mewn tacsi a bod
nifer o droseddau wedi’u cyflawni a phwyntiau wedi'u derbyn ar y drwydded dros
gyfnod cymharol fyr o amser, ac roedd hyn yn dangos patrwm ymddygiad sy'n cael
ei ailadrodd. Roedd y Pwyllgor o’r
farn ei bod yn briodol adnewyddu’r drwydded am gyfnod o flwyddyn, ond byddai’n
atgoffa’r ymgeisydd bod yn rhaid iddo sicrhau ei fod yn hysbysu'r Awdurdod
Trwyddedu am unrhyw droseddau yn y dyfodol o fewn y cyfnod amser penodedig a
sicrhau bod yr hysbysiad yn cael ei dderbyn. |