Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol
fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Apêl yn erbyn y penderfyniad i beidio â chymeradwyo fel gyrrwr cludiant o'r cartref i'r ysgol - SCN. Cofnodion: Cynghorodd yr
Arweinydd Tîm, Trafnidiaeth Teithwyr, fod SCN wedi nodi nad oedd yn dymuno dod i'r
cyfarfod a'i fod wedi gofyn i'r mater gael ei ddatrys yn ei absenoldeb. Nododd y
cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor nad oedd unrhyw reswm cyfreithiol
dros beidio â gallu datrys y mater yn absenoldeb SCN. Manylodd yr
Arweinydd Tîm Trafnidiaeth Teithwyr ar y cefndir mewn perthynas ag SCN, ac
atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd gwrthod apêl SCN yn erbyn y penderfyniad i
beidio â'i gymeradwyo fel gyrrwr Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. Rheswm dros y
penderfyniad Nid oedd yr
aelodau'n fodlon fod SCN yn iach, yn ddiogel ac yn addas i'w gymeradwyo fel
gyrrwr cludiant ysgol o dan adrannau 4.14, 4.16, 4.17 a 4.31 yr arweiniad ar
benderfynu ar addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbydau hacni a hurio preifat. |