Lleoliad arfaethedig: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y Bwrdd
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes
canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Adnewyddu Trwydded Cerbyd Hurio Preifat - SPA. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas â SPA. Gofynnodd aelodau
gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Esboniodd SPA yr
amgylchiadau mewn perthynas â'r ardystiadau ac atebodd gwestiynau'r Aelodau a'r
Swyddogion. Penderfynwyd ar y canlynol: 1) Peidio ag adnewyddu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat SPA gan nad oedd wedi bodloni aelodau
ei fod yn berson diogel ac addas.
|