Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2020 yn gofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynghorodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod cais wedi'i dderbyn mewn egwyddor gan Miss Cherry
Simmonds, Cyfarwyddwr Gweithrediadau 'Driving Miss Daisy Ltd.', i drwyddedu cerbydau glas hygyrch
i gadeiriau olwyn fel cerbydau hurio preifat. Cynigwyd bod y
cerbydau hefyd yn arddangos llygad y dydd gwyn ar y bonet flaen a llygad y dydd
gwyn ar bob drws blaen, o dan y ffenestri, manylion y cwmni a rhif ffôn ar y
ddau ddrws cefn o dan y ffenestri, llygad y dydd gwyn ar bob panel cefn a
llygad y dydd gwyn ac arwyddion ar gefn y cerbyd. Ni fyddai'r
cerbydau a'r arwyddion arfaethedig felly'n cydymffurfio â meini prawf trwyddedu
presennol y cyngor mewn perthynas â’r lliw a'r canllawiau ar gyfer hysbysebu. Nododd yr aelodau
y ddeddfwriaeth mewn perthynas â thrwyddedu cerbydau hurio preifat,
amodau/meini prawf cerbydau hurio preifat presennol, materion i'w
hystyried/pryderon ac argymhellion. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Rhoddodd Prif
Weithredwr 'Driving Miss Daisy UK' drosolwg o'r
gwasanaethau a ddarperir gan y cwmni. Manylodd ar y gwerthoedd a'r rhesymau
dros ddefnyddio 'Driving Miss Daisy'. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i Brif Weithredwr 'Driving Miss
Daisy UK', a ymatebodd yn briodol. Derbyniodd yr
aelodau gyngor cyfreithiol mewn sesiwn gaeëdig. Penderfynwyd y byddai'r cais, mewn egwyddor, yn cael ei
wrthod. Rheswm dros
y Penderfyniad Teimlodd yr
aelodau y byddai cyflwyno cerbyd lliw glas i'w defnyddio fel cerbyd hurio
preifat o bosib yn tanseilio ac yn cael effaith niweidiol ar y gofynion lliw
sefydledig presennol a gyflwynwyd fel mesur diogelwch cyhoeddus ac a
dderbyniwyd yn fasnachol. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd
yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)
(Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol, fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem
fusnes ganlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - JAG. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â JAG. Esboniodd JAG,
yng nghwmni Mr J, Eastside Cabs, yr amgylchiadau a
oedd yn ymwneud â'r digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd
gwrthod cais JAG am
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat gan nad
oedd JAG wedi sicrhau'r aelodau ei fod yn berson addas a phriodol i ddal
trwydded.
|
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - SLLD. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag SLLD. Esboniodd SLLD yr
amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd cymeradwyo cais SLLD am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat cyfyngedig. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - SLP. Cofnodion: Cynghorodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod bathodyn a thrwydded SLP wedi’u dychwelyd ers
llunio’r adroddiad ac felly nid oedd angen ystyried y mater. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Adnewyddu Trwydded Cerbyd Hacni - SAT. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â SAT. Esboniodd SAT yr
amgylchiadau mewn perthynas â'r troseddau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd
gwrthod cais SAT am
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat gan nad
oedd SAT wedi sicrhau'r aelodau ei fod yn berson addas a phriodol i ddal
trwydded. |