Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2020 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni - MSR. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag MSR. Esboniodd MSR,
yng nghwmni Mr W, Cyfreithiwr, amgylchiadau'r digwyddiad, a chyflwynodd
rhesymau dros pam mae MSR yn ddiogel ac yn addas erbyn hyn i fod yn ddeiliad
trwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd gwrthod cais MSR am drwydded yrru cerbyd hacni a
hurio preifat gan nad oedd MSR wedi sicrhau'r aelodau ei fod yn berson addas a
phriodol i ddal trwydded. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni - MAA. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag MAA. Esboniodd MAA yr
amgylchiadau mewn perthynas â'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd cymeradwyo cais MAA am drwydded i yrru cerbyd hacni a
hurio preifat tan 25/06/2020. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - Trwydded cerbyd hurio preifat - MHIF. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag MHIF. Esboniodd MHIF,
yng nghwmni Mr S, Cyfreithiwr, a Mr F, amgylchiadau'r drosedd ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd ar y canlynol: 1) Diddymu trwydded yrru cerbydau hacni a hurio preifat MHIF
gan nad oedd MHIF wedi sicrhau'r aelodau ei fod yn berson diogel ac addas i
gadw'r drwydded. 2) Ni chymerir unrhyw gamau eraill mewn
perthynas â thrwydded cerbyd MHIF. |
|
Y Diweddaraf am y Camau Gweithredu Uniongyrchol. Cofnodion: Nodwyd y diweddaraf am Gamau Gweithredu
Di-oed/Canlyniadau Apeliadau. |