Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: 1)
Datganodd
y Cyng. C Anderson gysylltiad personol â Chofnod Rhif .....Deddf Cyfrifoldebau
Heddluoedd Trefol 1847 a Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 –
Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio – JP – Rwy'n adnabod yr
ymgeisydd. Gadawodd y Cynghorydd C Anderson y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei
hystyried. 2)
Datganodd
y Cyng. C Anderson gysylltiad personol â Chofnod Rhif ..... Deddf Cyfrifoldebau
Heddluoedd Trefol 1847 a Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 –
Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio/Trwydded Cerbyd Hacni – BJE –
Rwy'n adnabod yr ymgeisydd. Gadawodd y Cynghorydd C Anderson y cyfarfod cyn i'r
eitem gael ei hystyried. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2019 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat/Trwydded cerbyd cerbydau Hackney - BJE. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â BJE. Gofynnodd aelodau
gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Esboniodd BJE,
yng nghwmni ei gyfreithiwr, Mr B, yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r
digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd rhoi rhybudd i BJE ynghylch ymddygiad yn
y dyfodol mewn perthynas â thrwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat, ac na ddylid cymryd camau mewn perthynas â thrwydded cerbyd BJE. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - SCE. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag SCE. Gofynnodd aelodau
gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Esboniodd SCE, a
oedd yng nghwmni aelod o'r teulu, yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'r
digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd rhoi trwydded yrru gyfyngedig i yrru
cerbyd hacni a hurio preifat i SCE a
rhoi rhybudd iddo am ei ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976- Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - JP. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â JP. Gofynnodd aelodau
gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Esboniodd JP yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd peidio â chymryd camau pellach mewn
perthynas â |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - SS. Cofnodion: Manylodd Arweinydd
y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag SS. Gofynnodd aelodau
gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Esboniodd SS yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd
gwrthod cais SS am
drwydded gyfyngedig i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. Rheswm dros y
Penderfyniad 1)
Mae gan yrwyr tacsi swydd gyfrifol a swydd o
ymddiriedaeth ac mae ymddygiad blaenorol yr ymgeisydd wedi dangos ei fod wedi
manteisio ar yr ymddiriedaeth sydd gan bobl mewn gyrwyr tacsi, sef ymddygiad
amhriodol ar fenyw ddiamddiffyn a oedd ar ei phen ei hun. 2)
Cymerwyd natur y gŵyn flaenorol mor ddifrifol gan
aelodau fel eu bod yn teimlo y dylid defnyddio'r cyfnod hwyaf o ymddygiad da a ganiateir
dan y canllawiau. Nid oedd y cyfnod hwyaf wedi dod i ben ar yr adeg y
cynhaliwyd gwrandawiad yr ymgeisydd, ac nid oedd yr ymgeisydd wedi darparu
unrhyw rheswm cymhellol pam y dylid gwyro o'r canllawiau; 3)
Nid oedd yr ymgeisydd wedi dwyn perswâd ar yr aelodau ei
fod yn edifar am ei weithredodd blaenorol, ac roedd y cymorth proffesiynol a
geisiwyd gan yr ymgeisydd yn ymwneud â sut roed dy digwyddiad wedi effeithio
arno ef, nid sut gallai ei ymddygiad ef fod wedi effeithio ar bobl eraill. 4)
Ni ddarparodd yr ymgeisydd dystiolaeth i ddangos na
fyddai'n berygl i deithwyr benywaidd ar eu pennau eu hunain yn ei dacsi. 5)
Er na
chafodd yr ymgeisydd gollfarn droseddol, roedd aelodau o'r farn bod ymddygiad
blaenorol yr ymgeisydd yn ymddygiad nad oedd yn gweddu i ddeiliad trwydded, ac
nid oedd yr ymgeisydd wedi pasio'r prawf addas a chymwys sy'n ofynnol i ddal
trwydded. |