Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod Cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2019 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - DSP. Cofnodion: Manylwyd ar y
cefndir mewn perthynas â DSP gan y Prif Gyfreithiwr. Esboniodd DSP yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r euogfarnau ac
atebodd gwestiynau aelodau. Darparodd y
cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor eglurhad ar y materion a godwyd gan
aelodau. Penderfynwyd
gwrthod cais DSP am drwydded gyfyngedig i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. Rheswm dros y
penderfyniad Nid oedd y
pwyllgor yn fodlon bod DSP yn berson addas a phriodol
oherwydd euogfarnau difrifol a mynych am feddu ar gyffuriau a/neu eu cyflenwi
a/neu gynhyrchu cyffuriau a reolir. |
|
Y Diweddaraf am y Camau Gweithredu Uniongyrchol/Canlyniadau Apeliadau. Cofnodion: Cyflwynwyd yr
adroddiad am Y Diweddaraf am Gamau Gweithredu Dioed /
Canlyniadau Apeliadau. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |