Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

69.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

 Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad canlynol:

 

Y Cynghorydd C Anderson – Personol – Cofnod rhif 72 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 – Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 – Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - JHG.  Rwy'n adnabod yr ymgeisydd. Gadawodd y Cynghorydd C Anderson y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried.

 

70.

Cofnodion: pdf eicon PDF 108 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2019 yn gofnod cywir.

 

71.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

72.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - JHG.

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas â JHG.

 

Esboniodd JHG yr amgylchiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd y dylid gwrthod cais JHG am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Ni lwyddodd yr ymgeisydd i fodloni'r pwyllgor ei fod yn berson addas a phriodol.

 

73.

Y Diweddaraf am y Camau Gweithredu Uniongyrchol.

Cofnodion:

Nodwyd.