Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: Y Cynghorydd C
Anderson – Personol – Cofnod Rhif: 68 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol
1847 – Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 – Cais am Drwydded
Gyfyngedig i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio
Preifat - PJH – Rwy'n adnabod yr ymgeisydd.
Gadawodd y Cynghorydd C Anderson y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei
hystyried. Y Cynghorydd J P Curtice – Personol – Cofnod Rhif: 68 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 – Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 – Cais am Drwydded Gyfyngedig i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat - PJH – Rwy'n adnabod yr ymgeisydd. Gadawodd y Cynghorydd J P Curtice y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2019 yn gofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad a oedd yn manylu ar adolygiad o
ganllawiau addasrwydd ar gyfer ymgeiswyr a thrwyddedeion
y masnachau Cerbydau Hacni a Hurio Preifat. Nododd yr aelodau
ddiben yr adroddiad, a hefyd y cefndir, y cynnig a'r argymhellion. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Penderfynwyd: 1.
Y
cynhelir ymgynghoriad ag aelodau’r masnachau Cerbydau Hacni
a Hurio Preifat a phartïon eraill â diddordeb yn y cynnig i fabwysiadu'r
'Canllawiau i benderfynu ar addasrwydd ymgeiswyr a thrwyddedeion
y masnachau Cerbyd Hacni a Llogi Preifat; ac 2.
Y
dylid cyflwyno adroddiad sy'n manylu ar ganlyniad yr ymgynghoriad i'r aelodau
i'w ystyried. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at
Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y
Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem
fusnes ganlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - AA. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch y cefndir mewn perthynas ag AA. Esboniodd AA yr
amgylchiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd: 1.
Atal trwyddedau
gyrru hurio preifat a cherbyd hacni AA am 6 mis 2.
Peidio
â chymryd unrhyw gamau mewn perthynas â thrwydded cerbyd hacni
AA. Rheswm dros y
penderfyniad Nid oedd y pwyllgor
yn fodlon bod AA yn berson addas a phriodol yn dilyn ei gollfarn ar 11 Rhagfyr
2018. |