Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau
canlynol: Cynghorwyr Y Cynghorydd C A
Anderson – Personol - Cofnod Rhif 51 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol)
1976 - Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hurio Preifat Cyfyngedig - Nissan NV200 -
rwy'n adnabod yr ymgeisydd. Y Cynghorydd N J
Davies - Personol - Cofnod Rhif 54 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847
- Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded i
Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - KSR. Rwy'n adnabod yr ymgeisydd yn
broffesiynol. Gadawodd y Cynghorydd N J Davies y cyfarfod cyn ystyried yr
eitem. Swyddogion Samantha Woon - Personol - Cofnod Rhif 55 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais AJR am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - rwy'n adnabod yr ymgeisydd. Gadawodd Samantha Woon y cyfarfod cyn ystyried yr eitem. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Statudol a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2018 yn gofnod cywir. |
|
Cais i dynnu isafswm maint yr injan/angen capasiti. PDF 176 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad a oedd yn ceisio diddymu isafswm
maint injan/gofyniad cynhwysedd. Manylodd ar yr
wybodaeth gefndirol, y sefyllfa bresennol, y cynnig, yr ymchwil, yr
ystyriaethau a’r argymhellion. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Penderfynwyd diddymu'r amod sy'n gofyn bod maint injan cerbyd hacni a/neu gerbyd hurio preifat cyfyngedig yn llai na 1500cc. |
|
Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo trwydded cerbyd hurio preifat
cyfyngedig Mr Harris mewn perthynas â'r Nissan NV200, rhif cofrestru NK12 FHW,
a'i hadnewyddu yn ôl teilyngdod. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - MC. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
chais MC i gael ei eithrio o gludo defnyddwyr cadair olwyn mewn cerbyd hacni a/neu gerbyd hurio preifat. Esboniodd MC yr
amgylchiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd cymeradwyo cais MC i gael ei eithrio o gludo defnyddwyr cadair olwyn mewn cerbyd hacni a/neu gerbyd hurio preifat, tan fis Tachwedd 2021. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - KSR. Cofnodion: Dywedodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fod y mater wedi'i ohirio o'r cyfarfod ar 9
Tachwedd, 2018 er mwyn i KSR drefnu cynrychiolaeth gyfreithiol. Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
chais KSR am drwydded i yrru cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat. Esboniodd KSR yr
amgylchiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd gwrthod cais KSR am drwydded yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat. Rheswm dros y
penderfyniad 1. Nid oedd yr aelodau'n fodlon bod KSR yn
berson addas a phriodol; 2. Mae'r canllawiau'n nodi bod rhaid i gyfnod
o o leiaf dair blynedd heb euogfarnau mewn perthynas
â thrais fynd heibio cyn yr ystyrir cais; 3. Ni ddarparwyd rhesymau argyhoeddiadol gan
yr ymgeisydd dros fynd yn groes i'r canllawiau; 4. Ni dderbyniodd yr ymgeisydd unrhyw fai am
y troseddau. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - AJR. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
chais AJR am drwydded i yrru cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat. Esboniodd AJR yr
amgylchiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd gwrthod cais AJR am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Rheswm dros y
penderfyniad 1. Nid oedd yr aelodau'n fodlon bod AJR yn
berson addas a phriodol; 2. Mae'r canllawiau’n ddewisol o ran a ddylid
cymeradwyo trwydded ar ôl i drwydded yrru'r DVLA gael ei hadfer yn dilyn
gwaharddiad; 3. Ystyriodd y pwyllgor yn yr achos hwn fod
nifer yr euogfarnau am oryrru o fewn cyfnod byr, tair euogfarn o fewn 12 mis, a
bod hyn yn dangos patrwm difrifol o droseddu gan warantu ymagwedd gryfach. 4. Ystyriodd y pwyllgor na fu troseddau
pellach yn ystod y tair blynedd diwethaf, fodd bynnag ni ddangosodd yr
ymgeisydd ei fod wedi dysgu o'i gamgymeriadau blaenorol. |