Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y cysylltiadau canlynol: Y Cynghorydd N J
Davies - Personol - Cofnod Rhif 47 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol - Deddf
Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Yrru
Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - KSR. Rwy'n adnabod yr
ymgeisydd yn broffesiynol. Gadawodd y Cynghorydd N J Davies y cyfarfod cyn
ystyried yr eitem. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod Cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2018 yn gofnod cywir. |
|
Mae Cerbydau Cludo â Chadair olwyn o Fewn Cyrraedd. PDF 116 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
i'r Swyddogion Trwyddedu bennu ceisiadau ychwanegol mewn perthynas â cherbydau
sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn o'r cefn. Cyfeiriodd hi at
ymgynghoriadau â’r Awdurdod Tân, ystyriaethau perthnasol a'r weithdrefn
arfaethedig. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Eglurodd y
cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor ddiben yr adroddiad a chyfeiriodd at
fudd y cyhoedd yn y mater hwn o ystyried bod tri aelod o'r cyhoedd yn bresennol
yn y cyfarfod. Gofynnwyd barn yr
aelodau o ran caniatáu i dri aelod o’r cyhoedd gyflwyno eu sylwadau. Rhoddodd y
cyfreithiwr gyngor ar y gweithdrefnau a nodir yn y cyfansoddiad a dewisiadau
amgen y gallai'r pwyllgor eu mabwysiadu. Penderfynnodd yr aelodau roi cyfle i'r cyhoedd siarad o blaid
neu yn erbyn yr argymhelliad, gan ganiatáu 5 munud i'r rheiny o blaid/yn erbyn
i siarad. Ystyriodd yr
aelodau sylwadau'r tri aelod o'r cyhoedd, a oedd i gyd o blaid yr argymhelliad. Penderfynwyd: 1.
Bod
gan Swyddogion yr Is-adran Drwyddedu yr awdurdod i ganiatáu trwyddedau cerbydau
mewn perthynas â cherbydau hacni sy'n hygyrch i
gadeiriau olwyn o'r cefn, yn amodol ar y cerbyd yn pasio archwiliad y cyngor a
bodloni holl feini prawf y cais ac fe drwyddedir y cerbydau hyn yn ôl
teilyngdod. 2.
Adroddir
am unrhyw gerbyd nad yw’n cydymffurfio â'r safonau gofynnol i'r Pwyllgor
Trwyddedu Cyffredinol er mwyn iddo benderfynu arno. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad er gwybodaeth a oedd yn
amlinellu'r camau gweithredu a gymerwyd gan swyddogion yn dilyn penderfyniad i
sicrhau bod gyrrwr yn cael ei atal rhag gyrru cerbyd trwyddedig. Roedd aelodau
wedi ceisio eglurhad o ran y pwerau sydd ar gael i swyddogion ofyn amdanynt fel
bod y drwydded a'r bathodynnau’n cael eu dychwelyd i'r awdurdod. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y Bwrdd
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - DJB. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
chais DJB am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. Esboniodd DJB yr
amgylchiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd cymeradwyo cais DJB am drwydded i
yrru cerbyd hacni a hurio preifat. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - LB. Cofnodion: Cylchredodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd gan
Heddlu De Cymru yn dilyn cymeradwyaeth LB, ac amlinellwyd y camau mewn
perthynas â chais LB ar gyfer cais am Drwydded Gyfyngedig i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat. Gwnaeth LB gais
i'r cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor ddarllen cyflwyniad ysgrifenedig
ynglŷn ag amgylchiadau'r drosedd. Hefyd darllenodd y cyfreithiwr wybodaeth
ynglŷn â materion perthnasol a ddarparwyd gan LB er gwybodaeth i'r
aelodau. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i LB ac i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Penderfynwyd y dylid gwrthod cais LB am drwydded
gyfyngedig i yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Rheswm dros
y penderfyniad 1.
Nid oedd
aelodau’n fodlon bod LB yn berson addas a phriodol fel y gallent fynd yn groes
i’w canllawiau sy'n nodi y dylai tair blynedd fynd heibio cyn i'r drwydded
gyrru gael ei hadfer. 2.
O
ystyried y dyddiad a difrifoldeb yr euogfarn, barnwyd bod LB mewn cyfnod prawf
o hyd ac nid oedd yr aelodau'n fodlon bod yr ymddygiad hwn yn un unigryw ac ni
fyddai'n cael ei ailadrodd. 3.
Nododd
yr aelodau mae hebryngwr cludiant ysgol oedd LB, fodd
bynnag nid yw'r rôl hon yn cynnwys gyrru aelodau'r cyhoedd. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - KSR. Cofnodion: Ceisiodd KSR gymeradwyaeth y pwyllgor i ohirio
ystyriaeth ar y mater i'r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol ar 14 Rhagfyr, 2018,
er mwyn caniatáu i KSR gael hyd i gynrychiolaeth briodol. Penderfynwyd
cymeradwyo cais KSR i
ohirio hyd nes cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol ar 14 Rhagfyr, 2018. |