Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 10 Awst 2018 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Pwyllgor
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd
yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth)
(Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y Bwrdd
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - SPL. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
chais SPL am eithrio rhag dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Gofynnodd aelodau
gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Esboniodd SPL yr
amgylchiadau ac atebwyd cwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd
cymeradwyo cais SPL am
eithriad llawn o gludo pobl sy’n defnyddio cadair olwyn mewn cerbydau hacni a/neu gerbydau hurio preifat. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - SCM. Cofnodion: Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar
yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais SCM am adnewyddu trwydded yrru
cerbyd hacni a hurio preifat. Gofynnodd aelodau
gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Esboniodd SCM,
yng nghwmni Mr W, yr amgylchiadau, darllenodd eirda cymeriad ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd y byddai SCM yn derbyn llythyr rhybudd cadarn
ynghylch ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - JPG. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
chais JPG am drwydded i yrru cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat. Esboniodd JPG yr
amgylchiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Darllenodd y
cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor eirdaon cymeriad a ddarparwyd gan JPG
i gefnogi ei gais. Penderfynwyd
cymeradwyo cais JPG. |
|
Y Diweddaraf am y Camau Gweithredu Uniongyrchol. Cofnodion: Nodwyd y
diweddaraf am y camau gweithredu uniongyrchol. [Ceisiodd yr
aelodau gael eglurhad ynglŷn â'r broses ar gyfer dychwelyd bathodynnau
tacsis pe bai trwydded yn cael ei dirymu.
Datganodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch y byddai'n darparu
diweddariad yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor]. |