Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

11.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd S J Gallagher – Cofnod rhif 15 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cerbyd hurio preifat cyfyngedig - Cais am eithrio rhag arddangos sticeri ar ddrysau a phlât trwyddedu - Cerbyd hurio preifat cyfyngedig RV 181, 208 a 245 - Mr Paul Thomas Finch – Personol – Rwy'n adnabod yr ymgeisydd a gadewais cyn y drafodaeth a Chofnod rhif 20 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Gyfyngedig i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat – ML - Personol – Rwy'n adnabod yr ymgeisydd a gadewais cyn y drafodaeth.

 

 

12.

Cofnodion. pdf eicon PDF 105 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2017 yn gofnod cywir.

 

13.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - VW Caddy Maxi - NK58 GXL. pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fod Mr Wayne Harris wedi cyflwyno cais am drwydded cerbyd hacni ar gyfer cerbyd Volkswagen Caddy Maxi MPV. Nid yw'r cerbyd wedi'i adeiladu at y diben ond mae ef wedi'i addasu i'w ddefnyddio fel cerbyd hacni sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn ac sy'n cael ei lwytho o'r cefn.

 

Amlinellwyd hanes cefndir trwyddedu cerbydau o'r fath yn Abertawe'n fanwl, ynghyd â nifer y cerbydau o fath tebyg sydd wedi'u cofrestru ar hyn o bryd.

 

Amlinellwyd hefyd y sefyllfa gyfredol parthed trwyddedu cerbydau o'r fath mewn awdurdodau eraill yng Nghymru.

 

Roedd y cerbyd wedi pasio'r archwiliad perthnasol gan y cyngor. 

 

Siaradodd Mr P Warren (cyfreithiwr) o blaid y cais.

 

Penderfynwyd  

1)    cymeradwyo'r cais a gyflwynwyd gan PW & EK Harris Taxi Hire Ltd am drwydded i yrru VW Caddy Maxi, rhif cofrestru NK58 GXL, fel cerbyd hacni sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn o'r cefn.

2)    rhoi adroddiad yn y cyfarfod nesaf mewn perthynas â rhoi pwerau dirprwyedig i swyddogion i ymdrin â cheisiadau o natur debyg i hwn.

 

14.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Eithrio rhag Arddangos Sticeri Drws a Phlât Trwydded - Cerbyd Hurio Preifat Gyfyngedig RV 178 and 308 - Mr Paul Matthews. pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch wrth y pwyllgor fod Mr Matthews wedi cysylltu â swyddogion i ddweud nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Penderfynwyd gohirio cais Mr Matthews tan y cyfarfod nesaf.

 

15.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Eithrio rhag Arddangos Sticeri Drws a Phlât Trwydded - Cerbyd Hurio Preifat Gyfyngedig RV 181, 208 and 245 - Mr Paul Thomas Finch. pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fod Mr Finch wedi cyflwyno cais am eithrio rhag arddangos sticeri drysau a phlât trwyddedu ar ei gerbydau hurio preifat cyfyngedig, RV 181, 208 a 245. Y rheswm dros gyflwyno'r cais oedd mai diben ei fusnes oedd trefnu teithiau dethol ymlaen llaw/teithiau i'r maes awyr ac yn ôl ac nid oedd yn defnyddio'r cerbyd i fynd â phlant yn ôl ac ymlaen i'r ysgol neu fel tacsi.

 

Siaradodd Mr Finch o blaid ei gais.

 

Nododd yr aelodau'r sefyllfa gyfredol a gofynnwyd cwestiynau i'r swyddogion ac i Mr Finch.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais Mr Jones am eithrio rhag arddangos sticeri ar ddrysau a phlât trwyddedu ei gerbydau hurio preifat cyfyngedig, RV 178 a 308, dan yr amodau canlynol:

1.     Mae'n rhaid arddangos y drwydded gyfyngedig a roddwyd gan y cyngor ar sgrîn wynt flaen y cerbyd ar yr ochr i mewn. Mae'n rhaid iddi fod yn weladwy ar bob adeg pan fydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hurio dethol a theithio i'r maes awyr. Mae'n rhaid dychwelyd y drwydded i'r cyngor pan fydd y drwydded yn dod i ben;

2.     Nid yw'r eithriad hwn yn berthnasol os bydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cludiant ysgol;

3.     Rhoddir adroddiad yn y cyfarfod nesaf mewn perthynas â rhoi pwerau dirprwyedig i swyddogion i ymdrin â cheisiadau o natur debyg i hwn.

 

 

16.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

17.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - NM.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir ynghylch trwyddedau NM i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat a'i drwydded cerbyd ac amlinellodd yr euogfarn a dderbyniwyd gan NM.

 

Nododd fod NM wedi hysbysu'r adran am ei euogfarn.

 

Esboniodd NM, yng nghwmni ei gyfreithwraig, Miss W, amgylchiadau'r drosedd a'r euogfarn ac atebodd gwestiynau'r aelodau mewn perthynas â'r mater.

 

Ceisiodd yr aelodau eglurder gan y swyddogion ynghylch sawl mater a godwyd gan NM yn ystod ei gyflwyniad.

 

Penderfynwyd gohirio'r mater tan y cyfarfod nesaf er mwyn i'r swyddogion gasglu rhagor o wybodaeth am y materion a godwyd gan NM.

 

18.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Gyfyngedig - SAC.

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch wrth y pwyllgor fod SAC wedi cysylltu â swyddogion i ddweud nad oedd hi'n gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd salwch.

 

Penderfynwyd gohirio cais SAC tan y cyfarfod nesaf.

 

19.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - GRJ.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais GRJ am drwydded gyfyngedig i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd GRJ yr amgylchiadau mewn perthynas â'r mater ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd y dylid gwrthod cais GRJ am drwydded gyfyngedig i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

Nid oedd y pwyllgor yn credu bod GRJ yn berson addas a phriodol. Mae'r ymgeisydd wedi cyflwyno cais o fewn 12 mis i'w drwydded gael ei dychwelyd yn dilyn gwaharddiad am 12 mis am ei fod wedi gyrru dan ddylanwad alcohol ac yna yrru dan waharddiad. Mae canllawiau'n nodi 3 blynedd ar gyfer meddwdod wrth yrru cerbyd modur. Nid oedd unrhyw gyfiawnhad dros beidio â dilyn canllawiau ar yr achlysur hwn.

 

20.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - ML.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais ML am drwydded gyfyngedig i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Esboniodd ML yr amgylchiadau mewn perthynas â'i droseddau a'i euogfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais ML am drwydded gyfyngedig i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat am flwyddyn dan amodau llythyr rhybudd parthed ei ymddygiad yn y dyfodol. 

 

Rheswm dros y penderfyniad

Roedd pryderon gan y pwyllgor ynghylch nifer y troseddau blaenorol gan yr ymgeisydd ond derbyniodd ei dystiolaeth ei fod yn newid ei fywyd.

 

 

21.

Y Diweddaraf am y Camau Gweithredu Uniongyrchol.

Cofnodion:

Nodwyd y diweddaraf am y camau gweithredu uniongyrchol.