Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

 Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd C Anderson – Cofnod rhif 9 – Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol – Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 – Cais i Ganiatáu Trwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat – LM - Personol – Rwy'n adnabod tad LM.

6.

Cofnodion. pdf eicon PDF 99 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 11 Mai 2018 ac ar 24 Mai 2018 yn gofnod cywir.

 

7.

Gower Executive Travel - Cais am Eithrio rhag Arddangos Sticeri Drws a Phlât Trwydded. pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch, fod Mr Jones wedi cyflwyno cais am eithrio rhag arddangos sticeri drysau a phlât trwyddedu ar ei gerbyd hurio preifat cyfyngedig, RV 305. Y rheswm dros gyflwyno’r cais oedd ei fod wedi sefydlu busnes gyda'i wraig yn ddiweddar o'r enw Gower Executive Travel, ac roeddent yn berchen ar un cerbyd trwyddedig yn unig a oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer teithio i'r maes awyr, llogi preifat dethol ac fel eu car preifat eu hunain.

 

Roedd Mr Jones hefyd yn gobeithio darparu gwasanaeth cludiant ar gyfer priodasau a theimla y byddai gosod y bathodynnau ar y cerbyd yn difetha'r cyfleoedd am dynnu lluniau ar gyfer y llogwyr ac, felly, byddai hyn yn amharu ar ei fusnes. Mae Mr Jones wedi cadarnhau nad oes bwriad ganddo i ddefnyddio'r cerbyd i fynd â phlant yn ôl ac ymlaen i'r ysgol.

 

Nododd aelodau'r sefyllfa gyfredol a gofynnwyd cwestiynau i'r swyddog ac i Mr Jones. Archwiliodd aelodau ffotograffau o'r cerbyd hefyd.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais Mr Jones am eithrio rhag arddangos sticeri drysau a phlât trwyddedu ar ei gerbyd hurio preifat cyfyngedig, RV 305, dan yr amodau canlynol:

 

1.     Mae'n rhaid arddangos y drwydded a roddwyd gan y cyngor ar sgrîn wynt flaen y cerbyd ar yr ochr i mewn. Mae'n rhaid iddi fod yn weladwy ar bob adeg pan fydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hurio dethol a theithio i'r maes awyr. Mae'n rhaid dychwelyd y drwydded i'r cyngor pan fydd y drwydded yn dod i ben;

2.     Nid yw'r eithriad hwn yn berthnasol os bydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cludiant ysgol;

3.     Penderfynodd aelodau hefyd i arolygu amod 23 cerbyd hurio preifat cyfyngedig ac adrodd yn ôl mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

8.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

9.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - LM.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais LM am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Esboniodd LM, yng nghwmni Mr W, cyfreithiwr, yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau aelodau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais LM am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

10.

Y Diweddaraf am y Camau Gweithredu Uniongyrchol.

Cofnodion:

Nodwyd y diweddaraf am y camau gweithredu uniongyrchol.