Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

77.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd S J Gallagher – Cofnod Rhif 81 - Personol a Rhagfarnol – Trwyddedu HMO – Deddf Tai 2004, Statws Person Addas a Phriodol – mae AL yn gymydog. Gadawodd y Cynghorydd S J Gallagher cyn ystyried yr eitem hon.

 

Y Cynghorydd L V Walton – Cofnod Rhif 81 - Personol a Rhagfarnol – Trwyddedu HMO – Deddf Tai 2004, Statws Person Addas a Phriodol – rwyf yn adnabod AL drwy ei fwytai teuluol. Gadawodd y Cynghorydd L V Walton cyn ystyried yr eitem hon.

 

78.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

79.

Trwyddedu HMO - Deddf Tai 2004, Person Addas a Phriodol - PA.

Cofnodion:

Rhoddwyd manylion cefndir yr achos gan yr Arweinydd Tîm o ran Trwyddedu HMO, Deddf Tai 2004 a Statws Person Addas a Phriodol mewn perthynas â PA.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd PA yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r collfarnau ac atebodd gwestiynau aelodau.

 

Penderfynwyd:

 

1.       Nad oedd PA yn berson addas a phriodol at ddibenion a64 Deddf Tai 2004:

2.       Gwrthod ceisiadau PA am ddwy drwydded HMO, a

3.       diddymu trwydded HMO bresennol PA.

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

Roedd y Pwyllgor o'r farn y dylai profiad blaenorol PA fel deiliad trwydded HMO fod wedi ei rwystro rhag gwneud y camgymeriadau a wnaed ganddo ac a arweiniodd at ei gollfarnau tai. Ni chafodd y Pwyllgor ei argyhoeddi gan dystiolaeth lafar PA fod trefniadau rheoli boddhaol ar waith yn yr HMO a chredodd ei fod yn cymryd ymagwedd adweithiol tuag at reoli yn hytrach na rhagweithiol.

 

80.

Trwyddedu HMO - Deddf Tai 2004 - Statws Person Addas a Phriodol - PW.

Cofnodion:

Rhoddwyd manylion cefndir yr achos gan yr Arweinydd Tîm o ran Trwyddedu HMO, Deddf Tai 2004 a Statws Person Addas a Phriodol mewn perthynas â PW.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd PW yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau aelodau.

 

Penderfynwyd nad oedd PW yn berson addas a phriodol at ddibenion a64 Deddf Tai 2004 a diddymu'r trwyddedau HMO mewn perthynas â'r eiddo a restrwyd ar dudalen 23 yr adroddiad.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad

Penderfynodd y Pwyllgor nad oedd PW yn berson addas a phriodol at ddibenion a64 Deddf Tai 2004 am y rhesymau canlynol:

Roedd y Pwyllgor o'r farn y dylai profiad blaenorol PW fel deiliad trwydded HMO fod wedi ei rwystro rhag gwneud y camgymeriadau a wnaed ganddo ac a arweiniodd at ei gollfarnau tai. Ni chafodd y Pwyllgor ei argyhoeddi gan dystiolaeth lafar PW fod trefniadau rheoli boddhaol ar waith yn yr HMO a chredodd ei fod yn cymryd ymagwedd adweithiol tuag at reoli yn hytrach na rhagweithiol.

 

81.

Trwyddedu HMO - Deddf Tai 2004 - Statws Person Addas a Phriodol - AL.

Cofnodion:

Rhoddwyd manylion cefndir yr achos gan yr Arweinydd Tîm o ran Trwyddedu HMO, Deddf Tai 2004 a Statws Person Addas a Phriodol mewn perthynas â AL.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd cynrychiolydd cyfreithiol AL, Mr S, yr amgylchiadau a oedd yn berthnasol i'r euogfarnau, gan ddarparu lliniariad manwl ar ran ei gleient.

 

Penderfynwyd nad oedd AL yn berson addas a phriodol at ddibenion a64 Deddf Tai 2004, a diddymu trwydded HMO bresennol AL a phum cais am drwydded mewn perthynas â'r pum eiddo cyntaf a restrir ar dudalen 32 yr adroddiad.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad

 

Penderfynodd y Pwyllgor nad oedd AL yn berson addas a phriodol at ddibenion a64 Deddf Tai 2004 am y rhesymau canlynol:

Roedd y Pwyllgor o'r farn y dylai profiad blaenorol AL fel deiliad trwydded HMO fod wedi ei rwystro rhag gwneud y camgymeriadau a wnaed ganddo ac a arweiniodd at ei gollfarnau tai. Ni chafodd y Pwyllgor ei argyhoeddi gan dystiolaeth lafar AL fod trefniadau rheoli boddhaol ar waith yn yr HMO a chredodd ei fod yn cymryd ymagwedd adweithiol tuag at reoli yn hytrach na rhagweithiol.