Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: Y Cynghorydd C
Anderson – Personol a Rhagfarnol – Cofnod rhif 92 -
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847, Deddf Llywodraeth Leol
(Darpariaethau Amrywiol) 1976, Deddf Cydraddoldeb 2010, Teithwyr mewn Cadeiriau
Olwyn, Cais am Dystysgrif Eithrio - CW - Rwy'n adnabod CW. Gadawodd y
Cynghorydd C Anderson y cyfarfod cyn ystyried y mater. Y Cynghorydd C Anderson – Personol a Rhagfarnol – Cofnod rhif 95 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847, Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, Trwydded Yrru i Gerbyd Hacni a Hurio Preifat - PAD - Rwy'n adnabod PAD. Gadawodd y Cynghorydd C Anderson y cyfarfod cyn ystyried y mater. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi’r cofnodion a restrir isod fel
cofnodion cywir: 1)
18
Ionawr 2018; a 2)
9
Chwefror 2018. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y Bwrdd
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - ZK. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu, ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais ZK am
Dystysgrif Eithrio. Esboniodd ZK yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau aelodau. Penderfynwyd cymeradwyo cais ZK am Dystysgrif
Eithrio am flwyddyn. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - CW. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu, ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais cais CW
am Dystysgrif Eithrio. Esboniodd CW yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau aelodau. Penderfynwyd cymeradwyo cais CW am Dystysgrif Eithrio yn ddiderfyn. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hurio Preifat - Rhif Cofrestru - LAJ. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu, ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais LAJ
am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Esboniodd LAJ,
gyda chwmni a chynrychiolaeth gan Mr W, yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais
ac atebodd gwestiynau aelodau. Penderfynwyd: 1)
cymeradwyo
cais LAJ am drwydded yrru
cerbyd hacni a hurio preifat; a 2) rhoi llythyr rhybudd i LAG o ran y safonau sy'n ofynnol i Yrwyr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - DLD. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â DLD. Esboniodd DLD yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau aelodau. Penderfynwyd na fyddai camau gweithredu pellach yn cael eu cymryd mewn perthynas â DLD. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - PAD. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu, ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â PAD. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd RPR yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau aelodau. Penderfynwyd y bydd PAD yn derbyn llythyr rhybudd o ran ymddygiad yn y dyfodol. |