Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

96.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd S J Gallagher - Personol - Cofnod 101 - Deddf Trwyddedu HMO, apêl i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl - AL - rwy'n adnabod yr ymgeisydd.

 

Y Cynghorydd C L Philpott - Personol - Cofnod 102 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Gyfyngedig i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat - SPW - sylweddolais fod gennyf wybodaeth flaenorol am y sefyllfa pan gyfeiriodd yr ymgeisydd at 'yr Esgob Gore'. Gadawodd y Cynghorydd C L Philpott cyn i'r penderfyniad gael ei wneud.

 

Y Cynghorydd L V Walton - Personol - Cofnod 101 - Deddf Trwyddedu HMO 2004, apêl i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl - AL - rwy'n adnabod yr ymgeisydd.

97.

Cofnodion. pdf eicon PDF 106 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2018 yn gofnod cywir.

98.

Deddf Cydraddoldeb 2010 - Trefniadau ar gyfer Cymeradwyo Esemptiadau. pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad am gymeradwyo ceisiadau ar gyfer eithriadau meddygol rhag cludo teithwyr mewn cadeiriau olwyn yn y dyfodol.

 

Nodwyd y cefndir a'r gweithdrefnau, presennol ac arfaethedig gan yr aelodau.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Cymeradwyo'r cynigion a nodwyd ym mharagraff 4 yr adroddiad ac awdurdodi swyddogion i gymeradwyo eithriadau meddygol fel a ganlyn:

 

a)    Pan fydd gyrrwyr yn cyflwyno ceisiadau â chyfyngiad amser ac mae'r ddogfennaeth ategol yn foddhaol, cânt eu cymeradwyo gan swyddogion ar ran y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol;

b)    Os ceir ymholiadau ynglŷn â chais neu os nad yw'r ddogfennaeth ategol yn foddhaol, bydd swyddogion trwyddedu'n cyfeirio'r cais i'r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol am benderfyniad; a

c)     Bydd pob cais am dystysgrif eithriad meddygol heb gyfyngiad amser yn cael ei gyfeirio i'r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol am benderfyniad.

99.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

100.

Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth - Deddf Tai 2004 - Apelio at Dribiwnlys Eiddo Preswyl - PA. (Er gwybodaeth)

Cofnodion:

Manylodd arweinydd y tîm ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â Thrwydded i HMO, Deddf Tai 2004, Apêl i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl gan PA.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.  Nodwyd y byddai adroddiad arall ynghylch canlyniad yr apêl yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor.

101.

Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth - Deddf Tai 2004 - Apelio at Dribiwnlys Eiddo Preswyl - AL. (Er gwybodaeth)

Cofnodion:

Manylodd arweinydd y tîm ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â Trwyddedu HMO, Deddf Tai 2004, Apêl i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl gan AL.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.  Nodwyd y byddai adroddiad arall ynghylch canlyniad yr apêl yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor.

102.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - SPW.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais SPW am drwydded gyfyngedig i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Esboniodd SPW yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau gan aelodau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais SPW am drwydded gyfyngedig i yrru cerbyd hacni a hurio preifat am 12 mis.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Er bod aelodau'r pwyllgor yn ymwybodol o'r cynnydd a wnaed gan SPW ers y digwyddiad, roeddent yn teimlo y byddai trwydded gychwynnol am 12 mis yn rhoi'r cyfle i SPW ddangos y bydd yn gallu rheoli sefyllfaoedd heriol yn y dyfodol.

103.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - - JLC.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais AGB am drwydded gyfyngedig i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd JLC, yng nghwmni Mr W, cynrychiolydd cyfreithiol, y sefyllfa mewn perthynas â'r mater ac atebodd gwestiynau gan aelodau.

 

Penderfynwyd y dylid gwrthod cais JLC am drwydded gyfyngedig i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Doedd y pwyllgor ddim yn teimlo bod JLC yn berson addas a phriodol i dderbyn trwydded gyfyngedig i yrru cerbyd hacni a hurio preifat gan ei fod wedi bod yn dwyllodrus wrth fethu cyflwyno sampl ac ni nodwyd arwydd o asthma yn yr archwiliad meddygol a gyflwynodd. Hefyd, nid oedd digon o amser wedi mynd heibio ers diwedd cyfnod y gwaharddiad. 

104.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - JMP.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais JMP am drwydded gyfyngedig i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Esboniodd JMP y sefyllfa mewn perthynas â'r mater ac atebodd gwestiynau gan aelodau.

 

Darllenodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor eirda cefnogol gan A C Jenkins, y darparwr gwasanaethau teithio.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais JMP am drwydded gyfyngedig i yrru cerbyd hacni a hurio preifat am 12 mis.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Nododd y pwyllgor fod 15 mis wedi mynd heibio ers y drosedd ac roedd yn ymddangos bod JMP yn cymryd ei euogfarnau goryrru blaenorol o ddifrif.

105.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Deuol - DAH.

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fod DAH wedi methu dod i'r cyfarfod ac ni dderbyniwyd esboniad ganddo.

 

Penderfynodd yr aelodau ystyried y mater yn absenoldeb DAH.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn  briodol.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Ystyried y mater yn absenoldeb DAH; a

2)    Gwrthod cais DAH i adnewyddo'r drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat. 

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Roedd y pwyllgor o'r farn nad oedd DAH yn berson addas a phriodol am ei fod yn anonest pan gafodd ei drwydded gan nad oedd wedi datgan ei euogfarn ddiweddar ac ni chafwyd esboniad boddhaol gan DAH oherwydd ei absenoldeb.

 

106.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - TA.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais TAA am drwydded gyfyngedig i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd TAA y sefyllfa mewn perthynas â'r mater ac atebodd gwestiynau gan aelodau.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Cymeradwyo cais TAA am drwydded gyfyngedig i yrru cerbyd hacni a hurio preifat am 12 mis; ac

2)    O fewn 3 mis ar ôl cymeradwyo'r drwydded, bydd meddyg teulu TAA yn cyflwyno cadarnhad ysgrifenedig i'r Is-adran Drwyddedu sy'n nodi bod TAA yn parhau i fodloni Safonau Meddygol Grŵp 2;

3)    Gofyn i TAA gyflwyno tystysgrif feddygol foddhaol flynyddol i'r awdurdod trwyddedu cyn adnewyddu'r drwydded.

107.

Y Diweddaraf am y Camau Gweithredu Uniongyrchol. (Er gwybodaeth)

Cofnodion:

Nodwyd y diweddaraf am y camau gweithredu uniongyrchol.