Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

82.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

83.

Cofnodion: pdf eicon PDF 109 KB

To approve & sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record.

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2018 yn gofnod cywir.

 

84.

Cais am Eithrio Rhag Arddangos Decalau ar Ddrysau - Cerbyd Hurio Preifat Cyfyngedig. pdf eicon PDF 47 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fod Mr Lang wedi rhoi gwybod i'r Is-adran Drwyddedu nad oedd yn gallu bod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol ac roedd yn dymuno i'w gais i gael ei eithrio rhag arddangos decalau ar ddrysau ei gerbyd hurio preifat cyfyngedig gael ei ystyried yn ei absenoldeb. Os nad oedd yn bosib, dymunai i'w gais gael ei ohirio oherwydd ei ymrwymiadau gwaith a'r rhybudd byr a gafodd am y cyfarfod hwn.

 

Fel ymateb i gwestiynau gan aelodau, cadarnhaodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fod llythyr hysbysiad wedi cael ei anfon drwy bost dosbarth cyntaf, ddydd Gwener 2 Chwefror 2018, a bod Mr Lang wedi cael gwybod ar lafar cyn y dyddiad hwn fod angen iddo fod yn bresennol.

 

Penderfynodd y Pwyllgor ystyried y mater yn absenoldeb Mr Lang.

 

Adroddodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fod Mr Lang wedi cyflwyno cais ar 22 Rhagfyr 2017 i'w eithrio rhag arddangos sticeri ar ddrysau ei gerbyd hurio preifat cyfyngedig, RV 293. Y rhesymau dros y cais oedd y byddai'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer priodasau, hurio gweithredol ac er mwyn cludo pobl i'r maes awyr ac oddi yno'n unig, a thrwy beidio ag arddangos y sticeri ar y drws, byddai'r cerbyd yn fwy deniadol i gleientiaid gweithredol yn hytrach nag edrych fel tacsi.  Ni fyddai'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio i gludo plant i'r ysgol ac oddi yno.

 

Nododd yr aelodau'r amod cyfredol ar gyfer cerbydau hurio preifat cyfyngedig sy'n gofyn iddynt arddangos platiau trwyddedu a sticeri ar y drysau.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. 

Penderfynwyd:

 

1.    Y dylid ymdrin â'r mater yn absenoldeb Mr Lang;

2.    Gwrthod cais Mr Lang i gael ei eithrio rhag arddangos decalau ar ddrysau ei gerbyd hurio preifat cyfyngedig, RV 293.                 


Rheswm dros y penderfyniad

 

Gan ystyried yr adroddiad a pham y cyflwynwyd yr amodau, nid oedd yr aelodau'n fodlon na fyddai diogelwch teithwyr yn cael ei beryglu.  Nododd yr aelodau y byddai eithriad Mr Lang ond yn gymwys pan fyddai'r y cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hurio gweithredol, fodd bynnag, roedd yn dal i fod yn gerbyd trwyddedig ac roedd yr aelodau'n bryderus am ddiogelwch y cyhoedd a fyddai'n teithio ynddo, a pha mor hawdd y bydd hi i adnabod y cerbyd.

 

Nid oedd yr aelodau'n fodlon y byddai gyrwyr eraill y cerbyd yn cofio i roi'r decalau yn ôl ar y drysau petai'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio er mwyn cludo pobl i'r maes awyr.

 

Ni ddarparwyd unrhyw wybodaeth gan Mr Lang a oedd yn perswadio'r pwyllgor ei fod yn rhesymol i'w eithrio rhag gorfod arddangos y decalau ar y drws.

 

85.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

86.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 a Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976- Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - RPR.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais RPR am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd RPR yr amgylchiadau'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau aelodau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais RPR am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat a bydd llythyr yn ei hysbysu o'r safonau a ddisgwylir gan yrrwr trwyddedig yng Nghyngor Abertawe yn cael ein anfon at RPR gyda'r drwydded.

 

87.

Y Diweddaraf am y Camau Gweithredu Uniongyrchol.

Cofnodion:

Nodwyd y diweddaraf am y camau gweithredu uniongyrchol.