Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorydd C Anderson – Personol a Rhagfarnol – Cofnod Rhif 69 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - FEB - Rwy'n adnabod FEB. Gadawodd y Cynghorydd C Anderson y cyfarfod cyn ystyried yr eitem hon. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad a oedd yn rhoi
manylion am apêl, a chofnodwyd hyn. |
|
Canlyniadau Apeliadau. PDF 80 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad a oedd yn rhoi
manylion am apêl, a chofnodwyd hyn. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Trwyddedu HMO - Deddf Tai 2004, Person Addas a Phriodol - PA. Cofnodion: Darparodd y Swyddog
Adrannol, sef y Rheolwr Busnes Tai, fanylion cefndir mewn perthynas â
thrwyddedu HMO, Deddf Tai 2004 a Statws Person Addas a Phriodol mewn perthynas
â PA. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Esboniodd PA yr
amgylchiadau mewn perthynas â'r tramgwyddau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1.
Bod y
Swyddogion yn penderfynu a gwblhawyd y gwaith a oedd yn weddill yn yr adroddiad
ac a ddarparwyd y tystysgrifau nwy perthnasol angenrheidiol ar gyfer y grant: a 2.
Gohirio'r
mater tan gyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol ar 12 Ionawr 2018. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Cwn Cymorth mewn Tacsis - Cais am Dystysgrif Eithrio - SPL. Cofnodion: Manylodd y
Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn
perthynas â chais SPL am Dystysgrif Eithrio. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd SPL yr
amgylchiadau mewn perthynas â'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd cymeradwyo cais SPL am dystysgrif i
eithrio cludo teithwyr mewn cadeiriau olwyn tan 31 Gorffennaf 2018. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Cwn Cymorth mewn Tacsis - Cais am Dystysgrif Eithrio - LAJC. Cofnodion: Manylodd y
Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn
perthynas â chais LAJC am Dystysgrif Eithrio. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd LAJC yr
amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd cymeradwyo cais LAJC am dystysgrif i
eithrio cludo teithwyr mewn cadeiriau olwyn tan 8 Rhagfyr 2018. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Cwn Cymorth mewn Tacsis - Cais am Dystysgrif Eithrio - AK. Cofnodion: Manylodd y
Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn
perthynas â chais AK am Dystysgrif Eithrio. Esboniodd AK yr
amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd cymeradwyo cais AK am dystysgrif i
eithrio cludo teithwyr mewn cadeiriau olwyn tan 8 Mehefin 2018. [Bu'r Cynghorydd P Downing, Is-Gadeirydd, yn
llywyddu ar gyfer Cofnod 69 yn unig] |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - FEB. Cofnodion: Manylodd y
Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch, ar yr wybodaeth gefndir mewn
perthynas â chais FEB am drwydded yrru cerbyd hacni a
hurio preifat. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Esboniodd FEB amgylchiadau'r drosedd ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais FEB am
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat ac i FEB
dderbyn llythyr rhybuddio ynghylch ymddygiad yn y dyfodol. [Y Cynghorydd P M Matthews, Cadeirydd, oedd yn
llywyddu] |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976- Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - DM. Cofnodion: Ymddiheurodd y
Cadeirydd a'r Uwch-gyfreithiwr a gwnaethant esbonio'r amgylchiadau a wnaeth
arwain at gyfnod o oedi cyn clywed achos DM. Nododd DM y
byddai wedi trefnu cynrychiolaeth gyfreithiol petai wedi bod yn ymwybodol o
drefniadau’r pwyllgor o ran y mater hwn. Yn sgîl cynnig gan y Cadeirydd i ohirio, cadarnhaodd DM ei fod
am barhau. Manylodd y
Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn
perthynas â DM. Esboniodd DM
amgylchiadau'r troseddau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd rhoi llythyr rhybuddio cryf i DM ynghylch ymddygiad yn y dyfodol. |