Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

47.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddion canlynol:

 

Y Cynghorydd P Lloyd - Personol - Cofnod Rhif - 52 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Dau Fathodyn Cyfyngedig - RC - Rwy'n adnabod y person sy'n dod gyda'r ymgeisydd.

48.

Cofnodion. pdf eicon PDF 109 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 8 Medi 2017 yn gofnod cywir.

 

49.

Canlyniadau Apeliadau (er gwybodaeth) pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch, ganlyniadau apeliadau am wybodaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, manylodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor y weithdrefn i'w mabwysiadu gan y Llys Ynadon a rôl Erlynydd Troseddol y cyngor wrth amddiffyn penderfyniad y pwyllgor.

 

Nododd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor fod y cadeirydd yn derbyn copi o resymeg penderfyniad y Llys Ynadon.

 

Penderfynwyd:

 

1.     y dylid nodi'r adroddiad.

2.     Bydda'r cyfreithiwr sy'n cynghori'r pwyllgor yn dod â manylion penderfyniadau'r Llys Ynadon i gyfarfodydd y dyfodol er mwyn ateb cwestiynau aelodau. 

 

50.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

51.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 -Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - MHIF.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch, yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais MHIF am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd MHIF amgylchiadau'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau mewn perthynas â'r mater.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais MHIF am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

52.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cyfyngedig Gyrrwr Bathodyn Deuol - RO.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch, yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â dau fathodyn cyfyngedig RO.

 

Esboniodd RO, yng nghwmni Mr J, amgylchiadau'r drosedd ac atebodd gwestiynau'r aelodau ynghylch y mater.

 

Penderfynwyd adnewyddu Trwyddedau Cerbydau Hacni a Hurio Preifat Cyfyngedig RO.

 

 

 

 

53.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 -Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - KD.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais KD am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Esboniodd KD amgylchiadau'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau mewn perthynas â'r mater.

 

Penderfynwyd y dylid gwrthod cais KD am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat am nad oedd yr aelodau'n ystyried bod KD yn berson addas a phriodol.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

·       Roedd y pwyllgor yn ystyried bod y drosedd a gyflawnwyd ar 16/10/16 yn un ddifrifol gan fod KD yn cludo teithwyr ar gyflymder uchel - 105 milltir yr awr.

·       Nododd y pwyllgor fod KD wedi gwadu gyrru ar y cyflymder hwnnw a bod yr Heddlu'n anghywir, ond gwrthododd roi ei gyflymder teithio, heblaw ei fod dros 40 mya.

·       Cafwyd KD yn euog yn y llys, ac nid oedd y pwyllgor yn ystyried y ffaith y rhoddwyd 4 mis iddo yn hytrach na 6 i 12 mis yn amgylchiad lliniarol.

·       Nododd y pwyllgor yr wybodaeth gan yr Heddlu a'r gwaharddiad a roddwyd am 4 mis ac ystyriwyd ei bod hi'n debygol bod KD wedi bod yn teithio ar gyflymder a oedd yn fwy na'r terfyn 40mya.

·       Roedd y pwyllgor yn pryderu bod KD wedi bod yn goryrru yn y lle cyntaf am fod ei deithwyr wedi dweud wrtho am oryrru â char arall.

·       Dywedodd KD bod ofn arno a dyna'r rheswm ei fod yn goryrru.  Roedd y pwyllgor o'r farn os oedd adroddiad KD am y digwyddiad yn gywir, gallai a dylai fod wedi delio â'r digwyddiad mewn ffordd arall. Roedd y pwyllgor yn pryderu nad oedd KD wedi arfer synnwyr cyffredin yn y ffordd yr oedd wedi delio â'r digwyddiad.

·       Nid oedd KD wedi dangos bod yn edifar ganddo am y drosedd y cafodd ei euogfarnu amdani heblaw ei fod yn gwybod bod goryrru yn anghywir.  Pan gwestiynwyd KD gan yr aelodau, ni ddangosodd fawr ddim/unrhyw barch at reolau'r ffordd nac at yr Heddlu y galwyd arnynt i ddelio â digwyddiad. 

·       Nododd y Pwyllgor fod KD wedi meddu ar drwydded yrru ers 2006, a dyma ei unig euogfarn, ond roedd cyflymder a manylion y digwyddiad fel yr adroddwyd amdano gan yr Heddlu, a'r ddedfryd a roddwyd, yn dangos bod hon yn drosedd ddifrifol a gyflawnwyd pan oedd gan KD deithwyr yn y car.

·       Nododd y pwyllgor hefyd y cafwyd y digwyddiad hwn o fewn 2 flynedd i roi trwydded i KD.

·       Yn sgîl atebion KD i gwestiynau aelodau, a chan mai 12 mis yn unig oedd wedi mynd heibio ers yr euogfarn, nid oedd y pwyllgor yn fodlon ei fod yn gweithredu'n groes i'w gymeriad ac ni fyddai'n berygl i ddiogelwch y cyhoedd sy'n teithio pe bai KD mewn sefyllfa debyg.