Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

31.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Y cynghorydd C Anderson – Personol – Cofnod rhif 35 Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 35 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat – PJCT – rwy’n adnabod yr unigolyn. Gadawodd y Cynghorydd C Anderson cyn ystyried yr eitem hon. 

 

Y Cynghorydd J P Curtice - Personol - Cofnod rhif 34 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Dau Fathodyn - TJH - rwy'n adnabod yr unigolyn.  Gadawodd y Cynghorydd J P Curtice y cyfarfod cyn ystyried yr eitem hon.

 

32.

Cofnodion: pdf eicon PDF 70 KB

Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod Cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2017 yn gofnod cywir.

 

33.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

34.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - TJH.

Cofnodion:

Rhoddodd y cyfreithiwr fanylion ynglŷn â pham roedd y mater hwn gerbron y Pwyllgor. Roedd TJH o flaen y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol yn flaenorol ar 14 Gorffennaf 2017, oherwydd dau fater:

 

a.     Trwydded cerbyd; a

b.     Thrwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat.

Yng Ngwrandawiad diwethaf y Pwyllgor ar 14 Gorffennaf 2017, penderfynodd yr aelodau i beidio â chymryd camau gweithredu pellach mewn perthynas â thrwydded y cerbyd.

 

Mewn perthynas â thrwydded yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat, roedd gwall gweithdrefnol yn golygu bod aelodau wedi trin â'r mater fel proses o ddisgyblu yn hytrach nag adnewyddiad. Nodwyd y camgymeriad hwn a byddai'n cael ei unioni yng Ngwrandawiad y Pwyllgor hwn - 11 Awst 2017. Gwaned yn glir nad oedd TJH wedi'i ragfarnu oherwydd bod Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat yr Ymgeisydd wedi cael ei hestyn o 14 Gorffennaf 2017 i 11 Awst 2017.

 

Rhoddodd y Swyddog Adrannol, Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fanylion cefndir mewn perthynas â chais TJH ar gyfer adnewyddu trwyddedau gyrru cerbydau hacni a hurio preifat ac atebodd gwestiynau'r aelodau a'r swyddog.

 

Esboniodd TJH amgylchiadau'r drosedd ac atebodd gwestiynau'r aelod ynglŷn â'r mater.

 

PENDERFYNWYD

 

1)    ADNEWYDDU trwyddedu Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat TJH o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1976 (Darpariaethau Amrywiol) ac anfon llythyr rhybudd cryf at TJH ynglŷn ag anonestrwydd.

 

 

35.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - PJCT.

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Adrannol, Trwyddedu, Bwyd ac Iechyd, fanylion cefndir trwydded cerbyd hacni a hurio preifat PJCT ac atebodd gwestiynau'r aelodau a'r swyddogion.

 

Esboniodd PJCT amgylchiadau'r cais ac atebodd gwestiynau’r aelod mewn perthynas â'r mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)    bod PJCT yn cyflwyno Tystysgrif Feddygol Grŵp 2 bob blwyddyn a mynd i archwiliadau bob tri mis gyda nyrs y feddygfa mewn perthynas â'r cyflwr meddygol. Dylid darparu adroddiadau'r holl archwiliadau meddygol i'r Is-adran Trwyddedu o fewn 5 niwrnod o'u cyflwyno. 

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

1)    Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor gan PJCT pam yr oedd yr ymgeisydd yn ceisio adolygu'r amodau ychwanegol. Roedd PJCT yn meddwl bod Tystysgrif Feddygol Grŵp 2 bob chwe mis yn ddiangen gan fod iechyd PJCT wedi gwella dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

2)    Cynigodd PJCT i barhau gyda'r archwiliad tri mis gan nyrs y feddygfa deulu mewn perthynas â'r cyflwr meddygol. Cynigodd PJCT hefyd i gyflwyno Tystysgrif Feddygol Grŵp 2 bob blwyddyn yn hytrach na phob chwe mis.

 

3)    Mae gan yrrwr tacsi swydd gyfrifol iawn ac mae iechyd y gyrrwr tacsi yn bwysig iawn. Roedd y Pwyllgor yn hapus i glywed bod iechyd PJCT wedi gwella ac y mae'n cymryd ei iechyd o ddifrif ac mae'n ymrwymedig i sicrhau bod yr ymgeisydd yn cadw'n iach.  

 

Derbyniodd y Pwyllgor gynigion PJCT o gyflwyno Tystysgrif Feddygol Grŵp 2 bob blwyddyn a chyflwyno'r tri adroddiad misol gan nyrs y feddygfa mewn perthynas â  chyflwr meddygol PJCS.

36.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - AJR.

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Adrannol, Trwyddedu, Bwyd ac Iechyd fanylion cefndir cais AJR am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Esboniodd AJR amgylchiadau'r drosedd/gymeradwyaeth ac atebodd gwestiynau aelodau a'r swyddog mewn perthynas â'r mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)    GWRTHOD cais AJR am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat o dan Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

1)    Mae gan yrrwr tacsi swydd gyfrifol iawn ac, i lawer o bobl, maent yn cynrychioli wyneb Dinas a Sir Abertawe. Nodwyd bod nifer mawr o bobl yn dibynnu ar yrwyr tacsis yn Abertawe a'r cyffiniau. Mae'n bwysig, felly, fod gyrrwr yn berson addas a phriodol.

 

2)    Roedd y Pwyllgor yn ymwybodol ei fod yn ymddangos bod diffyg gwir fesurau lliniaru a diffyg ymdrech ar ran AJR i gyfeirio at ei dueddfryd i yrru'n gyflym. Roedd yn ymddangos bod diffyg parch ganddo i’r gyfraith o ran y troseddau gyrru.

 

3)    Nid oedd yn ymddangos bod yr ymgeisydd yn edifar o gwbl am ei droseddau gyrru ac nid oedd gan aelodau hyder yn AJR. Nododd y pwyllgor fod y drosedd yrru ddiwethaf wedi digwydd pan oedd teithwyr yn y tacsi.

 

4)    Clywodd y pwyllgor nad oedd AJR wedi cofrestru'n wirfoddol ar gwrs ymwybyddiaeth cyflymder oherwydd bod problemau ariannol. Er bod y pwyllgor yn deall y gall ymgeiswyr brofi pwysau neu broblemau ariannol, yn y pen draw, ni all aelodau ystyried sefyllfaoedd personol wrth feddwl a oedd AJR yn berson addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

5)    Roedd y pwyllgor yn meddwl y dylai AJR gofrestru'n wirfoddol i fynd ar gwrs ymwybyddiaeth cyflymder yn y dyfodol.

 

6)    Roedd aelodau yn pryderu bod AJR wedi treulio'r rhan fwyaf o'r Gwrandawiad yn mynd i ddadl ynghylch côd penodol o drosedd yrru. Roedd yr ymgeisydd yn honni bod y côd yn anghywir ond cadarnhaodd fod y drosedd yn ymwneud â goryrru. Roedd y pwyllgor yn meddwl y dylai AJR fod wedi treulio'r amser hwn yn gallach drwy roi tystiolaeth ei fod yn berson addas a phriodol.

 

7)    Nid oedd y pwyllgor yn ystyried AJR i fod yn berson addas a phriodol.