Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig, Abertawe - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion y
Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 16 Mehefin, 2017 a 30 Mehefin,
2017 fel cofnod cywir. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a
nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - SJH. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas ag SJH ac
atebodd gwestiynau ynghylch gohiriad yn y cyfarfod ar 16 Mehefin mewn perthynas
â chyflwr iechyd SJH. Dywedodd fod ei drwydded wedi ei hatal am gyfnod yn dilyn
y cyfarfod hwnnw wrth aros am wybodaeth ychwanegol gan ei feddyg teulu am ei
ffitrwydd i yrru cerbydau ac, ers hynny, mae cadarnhad wedi'i dderbyn gan ei
feddyg teulu ac mae'r ataliad wedi'i ddiddymu. Esboniodd SJH
amgylchiadau ei gyflwr meddygol ac atebodd gwestiynau'r aelodau ynghylch ei
gollfarn. PENDERFYNWYD anfon llythyr o rybudd at SJH ynghylch ei
ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - CIS. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas â CIS, ac
atebodd gwestiynau'r aelodau. Esboniodd CIS
amgylchiadau ei gollfarn ac atebodd gwestiynau'r aelodau ynghylch ei droseddau. PENDERFYNWYD atal trwydded bathodyn deuol CIS am
gyfnod o 4 wythnos. Rheswm dros y
Penderfyniad Gweithredodd y pwyllgor trwyddedu yn ôl y canllawiau ar droseddau traffig. ·
roedd rhybudd am oryrru eisoes wedi'i gyflwyno, ·
cyflawnwyd y drosedd o fewn 3 mis o gyflwyno'r rhybudd
blaenorol. ·
mae'n bosib nad oedd yr ymgeisydd yn llawn sylweddoli
difrifoldeb y drosedd ·
mae'n
annhebygol y byddai rhybudd arall wedi'i barchu ac felly mae atal yn
gyfiawnadwy. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - LLS. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas â LLS, ac
atebodd gwestiynau'r aelodau. Esboniodd LLS
amgylchiadau'r rhybudd ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD
CYMERADWYO cais LLS am
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat o dan
Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a
chyflwyno llythyr o rybudd cryf i LLS ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - NM. Cofnodion: Amlinellodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a
Diogelwch nad oedd NM yn bresennol, ond ei fod wedi cytuno i'r pwyllgor yn
ystyried y mater yn ei absenoldeb. Cytunodd aelodau i glywed yr achos yn ei
absenoldeb. Manylodd ar y
cefndir mewn perthynas â chollfarnau NM a'i fethiant i hysbysu'r awdurdod am y
troseddau, ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD tynnu trwyddedau gyrru cerbyd hacni a hurio preifat NM yn ôl. Rheswm dros y
Penderfyniad Ni chydymffurfiodd
yr ymgeisydd ag amodau ei drwydded drwy fethu â dychwelyd ei fandad DVLA ar
gais swyddogion trwyddedu er mwyn iddynt allu cwblhau gwiriad blynyddol o'i
drwydded DVLA. Ni ystyriwyd ei fod
yn gymeriad addas a phriodol yn dilyn ei gollfarnau ar gyfer trais, ac roedd yr
ymgeisydd eisoes wedi derbyn rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol pan
roddwyd trwydded iddo ym mis Ebrill 2016. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - PTJ. Cofnodion: Manylodd y Swyddog Adrannol
- Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas â PTJ, ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. Esboniodd PTJ
amgylchiadau ei gollfarn ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD
CYMERADWYO cais PTJ am
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat o dan
Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a
chyflwyno llythyr o rybudd i PTJ ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - TJH. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas â chais TJH
i adnewyddu ei thrwyddedau cerbyd hacni a hurio
preifat ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Darparodd fanylion
am ymddangosiadau blaenorol TJH gerbron y pwyllgor trwyddedu a
phenderfyniadau'r pwyllgor mewn perthynas â'r materion a ystyriwyd. Roedd TJH
eisoes wedi derbyn dau rybudd ysgrifenedig am fethu â datgan dwy gollfarn
flaenorol, yn unol ag amodau’r drwydded.
Fodd bynnag, roedd TJH wedi hysbysu'r awdurdod o'r drosedd ddiweddaraf,
pan dderbyniwyd cosb o ddirwy ganddi, ar ei ffurflen adnewyddu. Esboniodd THJ amgylchiadau
ei throsedd ac atebodd gwestiynau'r aelodau ynghylch y mater. PENDERFYNWYD 1)
atal
trwydded bathodyn deuol TJH am gyfnod o 6 mis. Rheswm dros y Penderfyniad Mae gan yr ymgeisydd hanes o beidio â hysbysu'r Adran Drwyddedu am unrhyw
gollfarnau neu dorri telerau'r drwydded. Rhoddwyd sawl rhybudd blaenorol i'r
ymgeisydd ac fe'u hanwybyddwyd, ac mae'n bosib nad
yw'r ymgeisydd yn llawn sylweddoli difrifoldeb y drosedd. 2)
peidio
â chymryd unrhyw gamau o ran trwydded yrru cerbyd hacni
TJH. |