Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd V M
Evans – Personol – Cofnod 21 – Cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat – DM – Rwyf yn adnabod yr ymgeisydd a
gadawais cyn ystyried yr eitem honno. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976- Gyrrwr Bathodyn Deuol Cyfyngedig - SPM. Cofnodion: Rhoddodd y Prif
Swyddog Trwyddedu fanylion cefndirol mewn perthynas ag SPM. Esboniodd SPM amgylchiadau'r
collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD
CYMERADWYO cais SPM i
adnewyddu ei drwydded gyrrwr bathodyn deuol cyfyngedig a chyflwyno SPM â
llythyr cryf o rybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - - AJM. Cofnodion: Rhoddodd y Prif
Swyddog Trwyddedu fanylion cefndirol mewn perthynas ag AJM. Esboniodd AJM
amgylchiadau'r rhybudd ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Siaradodd tad AJM o
blaid y cais. PENDERFYNWYD
CYMERADWYO cais AJM am
drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat o dan
Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a
chyflwyno llythyr o rybudd cryf i AJM ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - AS. Cofnodion: Rhoddodd y Prif
Swyddog Trwyddedu fanylion cefndirol mewn perthynas ag AS. Esboniodd AS
amgylchiadau'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD
CYMERADWYO cais AS am
drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat o dan
Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a
chyflwyno llythyr o rybudd cryf i AS ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - - DM. Cofnodion: Rhoddodd y Prif
Swyddog Trwyddedu fanylion cefndirol mewn perthynas â DM. Rhoddwyd diweddariad gan Reolwr yr Uned Drafnidiaeth Integredig ar
benderfyniad gwreiddiol i gymeradwyo DM fel cynorthwy-ydd
teithwyr ar gludiant ysgol. Tynnwyd y gymeradwyaeth hon yng ngolau gwybodaeth
ychwanegol a dderbyniwyd gan Heddlu De Cymru. Esboniodd DM amgylchiadau'r gollfarn ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD
GWRTHOD cais DM am
drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat o dan
Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. Rheswm dros y
Penderfyniad Nid oedd aelodau'n fodlon bod DM yn berson addas a phriodol a'i fod wedi
bod yn gweithredu'n groes i'w gymeriad o ran ei euogfarn am ladrad ac na
fyddai’n aildroseddu. Diogelwch teithwyr oedd bwysicaf oll ac roedd gan yr aelodau bryderon mawr
ynghylch cyffes DM ei fod wedi camarwain yr Heddlu drwy roi fersiwn anghywir
iddynt a arweiniodd yn y pen draw at ei euogfarn am ladrad. Dywedodd DM fod ei
fersiwn i CS yn wir. Cyfaddefodd DM ei fod wedi cymryd camau i sicrhau yr aeth
yr arian at ei wraig yn hytrach nag i aelodau eraill o'i theulu. Awgrymodd DM
fod ei fam-yng-nghyfraith wedi cytuno y gallai DM ddefnyddio' i harian oherwydd
roedd hi am i'r arian fynd i'w merch. Mewn gwirionedd, trydedd fersiwn oedd
hon. Roedd gan yr aelodau bryderon arbennig ynghylch adroddiad yr Heddlu a oedd
yn nodi y cyflwynwyd hysbysiad ar ei fam-yng-nghyfraith oherwydd nid oedd yn
gallu talu ei ffïoedd gofal, gan achosi gofid iddi,
ac nid oedd ganddi unrhyw ddealltwriaeth y defnyddiwyd ei harian gan DM. |