Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Cynghorydd Y Cynghorydd C
Anderson – Personol – Cofnod rhif 12 – Deddf Cydraddoldeb 2010 – Teithwyr mewn Cadeiriau
Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - WCS - Rwy'n adnabod yr ymgeisydd. Gadawodd
y Cynghorydd Anderson cyn i'r eitem gael ei hystyried. Swyddog Samantha Woon –
Personol – Cofnod rhif 14 – Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol)
1976 – Gyrrwr Bathodyn Deuol – Rwy'n adnabod yr ymgeisydd. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD bod cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor
Trwyddedu a gynhaliwyd ar 21 Ebrill a 25 Mai 2017 yn gofnod cywir. |
|
Cylch gorchwyl. (Er gwybodaeth). PDF 44 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD
NODI y cylch gorchwyl. |
|
Newidiadau arfaethedig i Ffïoedd Gweithredwr Hurio Preifat PDF 63 KB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch a
oedd yn manylu ar newidiadau arfaethedig i ffïoedd
gweithredwyr hurio preifat. Manylodd ar yr wybodaeth gefndir, y newidiadau dadreoleiddio, y sefyllfa
bresennol, y ffïoedd arfaethedig, a'r goblygiadau
ariannol a chyfreithiol. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD CYMERADWYO A HYSBYSEBU y ffïoedd
arfaethedig. |
|
Newidiadau arfaethedig i Ffïoedd Cerbyd Hacni a Hurio Preifat. PDF 61 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch a oedd yn cynnig
newid ffïoedd cerbydau hacni
a hurio preifat. Manylodd ar yr
wybodaeth gefndir, yr ystyriaethau, y ffïoedd
arfaethedig, a'r goblygiadau ariannol a chyfreithiol. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD
CYMERADWYO A HYSBYSEBU y ffïoedd arfaethedig. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth)
(Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - TAA. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
TAA. Manylodd yr
achwynydd, SC, yng nghwmni partner SC a dau gynrychiolydd o Guide
Dogs Cymru, ar amgylchiadau'r digwyddiad ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. Esboniodd TAA
amgylchiadau'r digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD y dylid cyflwyno llythyr rhybudd cryf
ynghylch ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - WJG. Cofnodion: Manylodd y Swyddog Adrannol
- Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag WJG, ac
atebodd gwestiynau'r aelodau. Esboniodd WCS
amgylchiadau'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD CYMERADWYO cais WJG am dystysgrif
eithrio am gyfnod amhenodol. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Gyfyngedig - ALR. Cofnodion: Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag ALR. Esboniodd ALR amgylchiadau'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD
GWRTHOD cais ALR i
adnewyddu'r drwydded gyrru cerbydau hacni a hurio
preifat. Rheswm dros y
Penderfyniad Roedd y pwyllgor o'r farn nad oedd ALR yn berson addas a phriodol. Roedd y pwyllgor yn
ystyried bod natur y collfarnau'n fwy na thramgwyddau dibwys. Oherwydd nifer y
collfarnau, roedd y pwyllgor yn credu bod angen camau gweithredu pellach i
ddiogelu teithwyr. Ar ôl clywed esboniadau ALR am y collfarnau, roedd yr aelodau'n teimlo nad oedd ALR yn gweithredu'n groes i'w gymeriad ac y byddai'n parhau i anwybyddu'r rhwymedigaethau i gydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol eraill a ddisgwylir. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - SJH. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
SJH. Darllenodd y
cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor lythyr gan gyfreithwyr SJH a roddodd
eglurhad o ran y gollfarn. Esboniodd MJW
amgylchiadau'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau. PENDERFYNWYD gohirio'r mater, yn amodol ar dderbyn mwy
o wybodaeth gan feddyg SJH. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - NDTD. Cofnodion: Dywedodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch nad oedd NDTD yn bresennol ac nid oedd
wedi esbonio pam nad oedd yn bresennol na cheisio gohirio'r mater. Rhoddodd y
cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor gyngor ar y weithdrefn. Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
NDTD. PENDERFYNWYD Y dylid ymdrin â'r
mater yn absenoldeb NDTD; ac y Dylid DIDDYMU'r drwydded cerbyd hacni
a hurio preifat. Rheswm dros y
Penderfyniad Penderfynodd y pwyllgor
nad oedd NDTD yn berson addas a phriodol oherwydd methiant NDTD i gydymffurfio
â cheisiadau niferus a wnaed gan yr Is-adran Trwyddedu i gyflwyno gwybodaeth. Nododd yr aelodau
fod NDTV wedi cael 3 phwynt cosb yn ystod yr amser roedd y swyddogion wedi bod
wrthi'n ceisio cysylltu â NDTV ac roedd wedi methu rhoi gwybod i'r swyddogion
am hyn. Ni fodlonwyd yr
aelodau nad oedd NDTD yn gweithredu'n groes i'w gymeriad nac y byddai'n
cydymffurfio â gofynion yn y dyfodol. Felly, roedd yn peri risg i ddiogelwch
teithwyr. |